Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!
Y cyngor

Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!

Diweddarwyd diwethaf: 2023/05/26 at 11:20 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Trees outside Wrexham Guildhall
RHANNU

Rydym wedi ymuno â rhwydwaith ryngwladol o ddinasoedd sy’n ymrwymo i feithrin a hyrwyddo’r dulliau gorau yn y byd ar gyfer rheoli coed trefol!

Cyhoeddodd Sefydliad y Diwrnod Plannu Coed y newyddion i gydnabod ein rhaglen blannu, ein gwaith i warchod coed a chynnal a chadw ein coedwig drefol. Mae Wrecsam yn ymuno â Chasnewydd fel yr unig ddwy ddinas yng Nghymru i gael yr anrhydedd hon, ac yn un o ddim ond 169 o ddinasoedd mewn 21 o wledydd ledled y byd!

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

I gael cydnabyddiaeth fel Dinas Goed, mae’n rhaid i drefi a dinasoedd ddangos eu bod yn ymrwymo i gyflawni pump o safonau:

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025
  • pennu cyfrifoldeb dros ofalu am goed
  • creu strategaeth goed a pholisïau ar gyfer llywodraethu’r drefn o reoli asedau a rheoli risg yng nghyswllt coedwigoedd, coetir a choed
  • cadw rhestr gyfoes o adnoddau coed lleol
  • neilltuo adnoddau ar gyfer cynllun rheoli coed
  • cynnal digwyddiadau blynyddol i glodfori coed a’u buddion, er mwyn addysgu ysgolion a chymunedau.

Sefydliad y Diwrnod Plannu Coed (Arbor Day Foundation) yw’r gymdeithas ddielw fwyaf yn y byd sy’n ymwneud â phlannu coed. Mae’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth yn un o asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig sy’n arwain ymdrechion rhyngwladol i drechu newyn. Daeth y ddau sefydliad ynghyd yn 2019 i sefydlu Dinasoedd Coed y Byd. Mae’r rhaglen yn ymgyrch fyd-eang i gydnabod dinasoedd a threfi sy’n ymrwymo i sicrhau bod eu coedwigoedd a’u coed trefol yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn, eu rheoli’n gynaliadwy a rhoi clod haeddiannol iddynt.

“Mae coed yn bwysig i bobl, dim ots o ba wlad y mae rhywun yn dod neu’r iaith y maent yn ei siarad,” meddai Dan Lambe, prif weithredwr Sefydliad y Diwrnod Plannu Coed. “Rydym oll yn dymuno byw mewn dinas iach, gydnerth a phrydferth – mae coed yn rhywbeth cyffredin sy’n gallu cyflawni hynny. Mae cael eich cydnabod fel un o Ddinasoedd Coed y Byd yn golygu bod eich dinas chi’n ymrwymo i wneud mwy na’r arfer i ddynodi coed yn seilwaith gwyrdd hanfodol ar gyfer eu pobl.”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Rydym wrth ein boddau bod Wrecsam wedi’i chydnabod yn un o Ddinasoedd Coed y Byd. Rydym yn falch o ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd a threfi sy’n ymrwymo i warchod a chynyddu eu stoc o goed a hyrwyddo eu gwerth drwy feithrin cyswllt â’r gymuned a rheoli eu hasedau’n dda.

“Drwy ein rhaglen plannu coed dros yr hydref a gaeaf rydym wedi plannu mwy na 10,000 o goed ledled y sir. “Mae hynny’n cynnwys amrywiaeth o goed, gan gynnwys marchwiail llydanddail cynhenid a choed safonol mawr, yn ogystal â nifer o berllannau ffrwythau. Mae hyn yn cyfrannu at ein huchelgais i gynyddu’r gorchudd coed ledled Wrecsam i 20% erbyn 2026.”

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol, “Mae cael ein henwi’n un o Ddinasoedd Coed y Byd yn gydnabyddiaeth o waith caled ein staff a gwirfoddolwyr yn y blynyddoedd diwethaf yn plannu, gwarchod a rheoli’r coed sydd mor bwysig i’n hiechyd a lles, a’r economi leol.

Rydym yn ddiolchgar iawn am yr anrhydedd hon, a byddwn yn dal i ymrwymo i warchod a gwella ein coed a’n coetir sydd gyda’i gilydd yn ffurfio coedwig drefol Wrecsam.”

Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!
Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!
Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!
Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!
Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD

Rhannu
Erthygl flaenorol Register to vote Cymerwch ran yn y raffl hon am gyfle i ennill £50!
Erthygl nesaf New city - new career. Work for Wrexham Council Ydych chi wedi ystyried Prentisiaeth neu Hyfforddeiaeth gyda CBSW?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English