Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhoi Lwfans Priodasol yn anrheg ar Ddydd Sant Ffolant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhoi Lwfans Priodasol yn anrheg ar Ddydd Sant Ffolant
Pobl a lle

Rhoi Lwfans Priodasol yn anrheg ar Ddydd Sant Ffolant

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 4:08 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wedding rings
RHANNU

Erthal Gwadd: CThEM

Mae cyplau priod yn cael eu hannog i ystyried rhoi Lwfans Priodasol yn anrheg i’w gŵr, gwraig neu bartner sifil ar Ddydd Sant Ffolant eleni, gan arbed hyd at £252 y flwyddyn.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae dros 2.1 miliwn o gyplau’n elwa ar Lwfans Priodasol ar hyn o bryd, ond mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn amcangyfrif bod miloedd yn fwy o gyplau’n colli allan oherwydd nad ydynt yn sylweddoli y gallent fod yn gymwys. Mae hyn yn arbennig o wir mewn cyplau lle mae un partner wedi ymddeol, wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn ymgymryd â dyletswyddau gofal, neu’n methu â gweithio oherwydd cyflwr iechyd hirdymor.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Er mwyn gostwng faint o dreth maent yn ei thalu, mae cwsmeriaid sy’n ennill llai na £12,570 y flwyddyn yn gallu trosglwyddo hyd at £1,260 o’u Lwfans Personol i’w partner sydd â chyflog uwch. Maent yn gallu ôl-ddyddio eu hawliad i gynnwys unrhyw flwyddyn dreth hyd at 6 Ebrill 2018, a gallai hyn arwain at ryddhad treth gwerth hyd at £1,242.

Gall cyplau ddefnyddio’r gyfrifiannell Lwfans Priodasol, sy’n rhad ac am ddim, ar GOV.UK er mwyn gwirio a ydynt yn gymwys i gael y rhyddhad treth.

Meddai Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF, “Rydyn ni eisiau i bob cwpl sy’n gymwys elwa ar ryddhad treth lwfans priodasol. Efallai na fydd cyplau’n sylweddoli eu bod yn gymwys i hawlio ar ôl newid yn ei hamgylchiadau – er enghraifft os yw un ohonyn nhw wedi rhoi’r gorau i weithio neu wedi cymryd swydd â chyflog is.

“Mae’n hawdd cael gwybod am yr hyn y gallech ei gael – ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Marriage Allowance calculator’ fel cam cyntaf. Drwy wneud cais ar GOV.UK yn hytrach na thrwy drydydd parti, byddwch chi’n gallu cadw 100% o’r rhyddhad treth sy’n ddyledus.”

Mae’r sawl sy’n gymwys yn gallu gwneud cais ar GOV.UK yn rhad ac am ddim, a chadw 100% o’u hawliad. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn arwain at ostyngiad yn swm y dreth a delir gan y partner sydd â chyflog uwch.

Gall cyplau elwa ar Lwfans Priodasol os yw’r meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • maen nhw’n briod neu mewn partneriaeth sifil
  • nid ydynt yn talu Treth Incwm, neu mae eu hincwm o dan y Lwfans Personol, sef £12,570
  • mae un partner yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol – sydd fel arfer yn golygu bod incwm y partner hwnnw rhwng £12,571 a £50,270

Gellir canslo Lwfans Priodasol ar GOV.UK os bydd amgylchiadau cwpl yn newid.

I ddysgu am y cymorth arall sydd ar gael gan y llywodraeth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Help for Households’

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Egerton Street in Wrexham Ym mhle NA ALLAF yrru fy nghar?
Erthygl nesaf Dementia art group Rhoddion hael i gefnogi grŵp celf dementia yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English