Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 13, 2026 9:40 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
RHANNU

Mae ymgyrch flynyddol Recycle Your Electricals ‘Her Fawr y Ceblau’ yn ôl – galwad genedlaethol i weithredu i fynd i’r afael â’r miliynau o geblau ac offer trydanol eraill sy’n eistedd yn segur ar draws cartrefi’r DU.

Cynnwys
  • I’r lleuad ac yn ôl…
  • Oes gennych chi ddrôr llawn dop?
  • Ailgylchu eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol
    • Dod o hyd i bwynt ailgylchu
  • Dod o hyd i gaffi trwsio yn agos atoch chi
    • Benthyca a Thrwsio
    • Caffi Trwsio Wrecsam

Mae’r fenter yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff eleni sy’n cael ei gynnal ddydd Mercher, Hydref 14.

I’r lleuad ac yn ôl…

Mae ymchwil gan Recycle Your Electricals yn datgelu bod cartrefi yn y DU yn dal gafael ar ac yn taflu digon o geblau i gyrraedd y lleuad ac yn ôl!

Trwy ailgylchu’r ceblau hyn a hen offer trydanol eraill yn hytrach na dal gafael arnynt, gellir ailddefnyddio’r deunyddiau gwerthfawr, megis copr, sydd y tu mewn i’r offer hyn, a’u hailgylchu i eitemau newydd gan gynnwys ffonau symudol, gliniaduron, watshys clyfar, ynni glân a hyd yn oed offer meddygol.

Oes gennych chi ddrôr llawn dop?

Mae ymchwil Recycle Your Electricals hefyd wedi canfod bod dau o bob pump o gartrefi’r DU (39%) yn dal gafael ar eu hoffer trydanol bach mewn drôr llawn dop – lle cyfrinachol i guddio offer trydanol sydd ddim yn cael eu defnyddio a thechnoleg sydd wedi torri a geir mewn llawer o gartrefi.

Mewn gwirionedd, dywedodd dros chwarter y bobl hyn (28%) eu bod yn teimlo cywilydd, dicter neu rwystredigaeth gan yr holl offer trydanol bach maen nhw’n eu storio yn eu cartrefi. A dydy un o bob pump o bobl ddim yn ailgylchu eu hoffer trydanol oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod sut i wneud hynny (21%) neu mae’n rhy anodd (21%).

Gyda miliynau o geblau yn achosi llanast yng nghartrefi’r DU, mae Recycle Your Electricals wedi cyhoeddi Canllaw Ceblau defnyddiol. Gyda 35 o’r ceblau mwyaf cyffredin, mae’r canllaw yn rhannu delweddau hawdd eu defnyddio i baru ceblau â’u hoffer trydanol gwreiddiol. Os nad yw’r offer trydanol neu’r ceblau yn gweithio mwyach neu nad ydych chi eu hangen mwyach, rhowch eich ceblau mewn bag ac ailgylchwch nhw.

Ailgylchu eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni’n hapus i gefnogi Her Fawr y Ceblau 2026, ac rydyn ni’n annog ein trigolion i gymryd rhan trwy ailgylchu eu ceblau diangen. Mae gan bob un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam fanciau yn benodol ar gyfer eitemau trydanol felly gallwch ailgylchu’r eitemau hyn yn ystod eich ymweliad nesaf.

“Os oes gennych chi eitemau trydanol mewn cyflwr da, gallwch chi eu rhoi i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos. Gallwch chi roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu – siaradwch ag un o’r gweision a fydd yn dangos i chi ble gallwch chi adael yr eitemau rydych chi am eu rhoi.”

Edrychwch ar ein gwefan i weld y rhestr o bethau sy’n gallu cael eu hailgylchu yn y canolfannau ailgylchu.

Dod o hyd i bwynt ailgylchu

Gallwch wirio lleolwr cod post Recycle Your Electricals i ddod o hyd i’ch pwynt ailgylchu agosaf. Rhowch eich cod post i ddod o hyd i’ch pwynt trwsio, rhoi neu ailgylchu agosaf, gyda dros 30,000 o leoliadau ledled y DU wedi’u rhestru.

Dod o hyd i gaffi trwsio yn agos atoch chi

Oes gennych chi unrhyw eitemau sydd ddim yn gweithio ond y gellid eu trwsio? Os felly, beth am ddod o hyd i gaffi trwsio yn eich ardal chi!

Benthyca a Thrwsio

Mae Benthyca a Thrwsio, sydd wedi’i leoli yn Tŷ Pawb, yn cynnal caffis trwsio, gweithdai uwchgylchu a digwyddiadau eraill i helpu i atal gwastraff. Cynhelir y caffi trwsio nesaf ddydd Sadwrn, 17 Hydref, 11am-2.30pm.

Tra byddwch chi yno, gallwch chi hefyd edrych ar yr eitemau gwych y gallwch chi eu benthyg. O beiriannau gwnïo i offer gwersylla, tŵls i gyflenwadau parti, mae yna ddigon o eitemau defnyddiol y gallwch chi eu llogi am gost fach (o’i gymharu â’r hyn y byddech chi’n ei dalu i brynu’r eitem newydd eich hun).

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn tudalen Facebook Benthyca a Thrwsio.

Caffi Trwsio Wrecsam

Bydd Caffi Trwsio Wrecsam yn cynnal digwyddiad ddydd Sadwrn, Tachwedd 14, 11am-1pm yng Nghanolfan Parc Caia, Ffordd y Tywysog Siarl, LL13 8TH.

Galwch heibio gyda’ch eitem sydd wedi torri neu wedi’i difrodi, a bydd y trwswyr gwirfoddol yn ceisio ei hatgyweirio am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi, a sgwrsio â’ch cymdogion wrth i chi aros.

Gallwch hefyd weld dyddiadau digwyddiadau yn y dyfodol ar wefan Caffi Trwsio Cymru, neu dudalen Facebook Caffi Trwsio Wrecsam y gallwch chi ei dilyn hefyd i gael y newyddion diweddaraf.

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch.

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref) – Newyddion Cyngor Wrecsam

TAGGED:ailgylchugwastraffrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Erthygl nesaf Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle
Hydref 12, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Hydref 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English