Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Taith Prydain – Manylion Digwyddiad Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Taith Prydain – Manylion Digwyddiad Wrecsam
Y cyngorBusnes ac addysg

Taith Prydain – Manylion Digwyddiad Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Awst 17, 2023 1:27 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Tour of Britain
RHANNU

Fis Medi bydd Wrecsam yn croesawu ras feicio fwyaf y Deyrnas Unedig, Taith Prydain, am y tro cyntaf ers wyth mlynedd. 

Mae Wrecsam mewn sefyllfa unigryw yn Nhaith 2023 gan mai dyma’r unig ranbarth i gynnal cychwyn a diwedd y ras.

  • Bydd llinell gychwyn a diwedd y ras wedi’i lleoli ar Stryt Caer
  • Disgwylir i’r beicwyr adael am 11:45am ar hyd cylchfan Ffordd Powell ac ymlaen i Stryt Caer
  • Disgwylir i’r beicwyr ddychwelyd tua 2:30pm ar hyd Stryt y Twtil, Stryt Yorke ac ymlaen i Stryt Caer
  • Bydd ardal y llwyfan ym maes parcio’r Llyfrgell
  • Bydd Pentref y Daith a gweithgareddau/stondinau ychwanegol yn Llwyn Isaf

Bydd rhwystrau i’r dyrfa yn cael eu gosod naill ochr i’r ffordd o gylchfan Ffordd Powell i lawr at Stryt y Twtil.

Ni chaniateir parcio ar y stryd na chyflenwadau ar hyd 8km olaf y llwybr rhwng 10am a 3pm (cyfyngiadau Stryt Caer wedi’u nodi isod).  Bydd unrhyw gerbyd sy’n cael ei adael heb oruchwyliaeth yn cael ei symud o’r safle ac yn cael ei gymryd i gompownd a bydd angen talu ffi i gael y cerbyd yn ôl.

Dydd Llun 3 Medi

Ni chaniateir parcio ar y stryd ar Stryt Caer o 6pm ddydd Sul 3 Medi.  Bydd Stryt Caer yn ailagor ar ôl y ras ddydd Llun 4 Medi.

6am ymlaen – Paratoi ar gyfer y digwyddiad ar Stryt Caer

Bydd y ffordd gyfan ar gau o gylchfan Ffordd Powell at gyffordd Stryt Holt (Wingetts).  Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei ganiatáu.

Bydd mynediad i gerbydau yn cael ei ganiatáu hyd at yr ardal i gerddwyr ar Stryt Caer (tan 1pm) – fodd bynnag, dim ond troi i’r dde i Stryt Holt y caniateir i gerbydau.

Meysydd Parcio

Ni fydd yna fynediad i’r meysydd parcio canlynol ar hyd Stryt Caer:

  • Canolfan Byd Dŵr (Freedom Leisure)
  • Y Llyfrgell
  • Neuadd y Dref (Aelodau)
  • Hwb Lles
  • Y Neuadd Goffa

Bydd modd cyrraedd maes parcio staff yr Hwb Lles ar hyd Stryt Holt (a fydd yn cael ei reoli gan reolaeth draffig). Ni fydd modd cyrraedd/gadael rhwng 1:30pm a 4:00pm pan fydd disgwyl i’r beicwyr ddychwelyd.

Bydd rhan o faes parcio arhosiad hir Canolfan Byd Dŵr yn cael ei ddefnyddio i ddeiliaid bathodyn glas, a bydd modd cyrraedd ar hyd Stryt Holt (fydd yn cael ei reoli gan reolaeth draffig).

  • Bydd maes parcio San Silyn ar gau o 1pm a bydd yn ailagor pan fydd Stryt y Twtil yn ailagor

Mae trefniadau parcio eraill yn cael eu hystyried, ond fe anogir pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol a chludiant cyhoeddus i gyrraedd canol y ddinas.

1pm – tua 6pm

Bydd trefniadau cau Stryt Caer yn cael eu hymestyn i lawr Stryt y Twtil. Ni chaniateir mynediad i unrhyw gerbyd yn ystod y cyfnod yma.

Mae disgwyl i’r beicwyr gyrraedd tua 2.30pm.  Pan fydd y ras wedi gorffen, bydd y gwaith o dynnu popeth i lawr yn cychwyn. Bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Gan fod digwyddiad mor fawr yn cael ei chynnal yn Wrecsam mae’n anochel y bydd yn achosi anghyfleustra i ddefnyddwyr y ffordd.

“Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod yr effaith hwn mor fach â phosibl a bydd canol y ddinas yn manteisio o lif o ymwelwyr a ddisgwylir o bob rhanbarth.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Taith Prydain . Map o’r Daith

Bydd Llwyn isaf yn cynnal pentref i’r daith ar y diwrnod a fydd yn cynnwys

•     Stondin swyddogol Tour of Britain

•     Stondinau lleol

•     Teganau gwynt

•     Gweithgareddau beicio a chyrsiau rhwystrau

Taith Prydain - Manylion Digwyddiad Wrecsam
Rhannu
Erthygl flaenorol Wales Comic Con Croeso i Comic Con 2023 i Wrecsam ym mis Medi
Erthygl nesaf Thought bubbles Gofalwyr di-dâl, rhowch eich barn!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English