Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau

Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 30, 2026 11:01 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Ageing Well event at Ty Pawb
RHANNU

Mae Wrecsam yn cynnal Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam arbennig ddydd Iau 12 Chwefror 2026, rhwng 11.30am a 1.30pm yn Nhŷ Pawb.

Mae’r digwyddiad yn seiliedig ar un syniad syml: rydyn ni i gyd eisiau heneiddio’n dda. Mae cadw’n iach, yn gysylltiedig ac yn rhan o’n cymuned yn bwysig i bawb – ni waeth ble rydyn ni arni mewn bywyd.

Bydd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn ymuno â ni ar y diwrnod a dywedodd: “Mae cymunedau sy’n ein galluogi i aros yn egnïol, yn gysylltiedig ac yn wybodus yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein hiechyd, ein lles a’n hannibyniaeth – ac yn ein helpu ni i heneiddio’n dda.

“Felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i Wrecsam i ymuno â gweithgareddau’r digwyddiad dathlu ar 12 Chwefror i ddysgu mwy am y gwaith pwysig sy’n cael mynd rhagddo i wneud Wrecsam yn sir sy’n dda i bobl hŷn, a’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl hŷn.

“Bydd llawer o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol ar gael, felly dewch draw i ymuno â ni ar y diwrnod os gallwch chi – croeso i bawb!”

Bydd mwy na 40 o sefydliadau hefyd yno i rannu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth gydag oedolion a’u teuluoedd.

Ymhlith y sefydliadau fydd yn bresennol ar y dydd mae; Tîm Seiberdroseddu Heddlu Gogledd Cymru, AVOW, Rainbow Foundation, Atal cwympiadau ac iechyd esgyrn, DASU, BAWSO, Cymorth i Ddioddefwyr, Cyngor ar Bopeth a llawer mwy

Yn y digwyddiad, fedrwch:

  • Gwrdd â grwpiau lleol
  • Dysgu am gymorth yn Wrecsam
  • Mwynhau sgwrs hamddenol gydag eraill

Mae croeso i bawb, ac mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Does dim angen cadw lle – dim ond galw heibio.

Heneiddio’n dda yn Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn – Newyddion Cyngor Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erthygl nesaf Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Elevate Conference
Digwyddiadau

Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd

Medi 30, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau

Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English