Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 29, 2026 2:41 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
RHANNU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn croesawu dyfarniad y llys heddiw yn dilyn problemau niwsans sŵn difrifol a hirdymor yn ymwneud â chŵn yn cyfarth yn ddi-baid ac aflonyddwch cysylltiedig yn Rhodfa’r Celyn, Wrecsam.

Ers mis Rhagfyr 2022, mae’r Cyngor wedi derbyn cwynion niferus gan gartrefi cyfagos ynghylch chyfarth di-baid gan sawl ci sy’n cael eu cadw yn yr eiddo. Dros y cyfnod hwn, cynhaliwyd pedwar ymarfer monitro sŵn ar wahân, gan gofnodi cyfanswm o 965 o achosion o gyfarth, gyda llawer ohonynt yn digwydd yn hwyr yn y nos ac yn achosi trallod sylweddol a pharhaus i drigolion cyfagos.

Er gwaethaf cyflwyno Hysbysiad Atal Statudol ac erlyniad llwyddiannus ym mis Tachwedd 2024, parhaodd y niwsans heb osteg. Cadarnhaodd recordiadau sŵn a gwaith monitro pellach ar ddechrau 2025 fod y tramgwyddo yn parhau, gan adael trigolion yn agored i fraw ac aflonyddwch hirfaith.

Yn Llys Ynadon Wrecsam heddiw, plediodd y diffynnydd yn euog i naw trosedd yn ymwneud â thorri Hysbysiad Diogelu’r Gymuned. Gosododd y llys:

  • Dirwy o £2,250
  • Costau llys o £4,046
  • Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn para dwy flynedd

Mae’r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn gwahardd y diffynnydd neu berson/personau eraill rhag:

  1. Cadw cŵn yn yr eiddo ar Rodfa’r Celyn, Wrecsam ar unrhyw adeg
  2. Achosi unrhyw niwsans sŵn yn Rhodfa’r Celyn, Wrecsam ar unrhyw adeg

Mae’r Gorchymyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r diffynnydd:

  • Ildio’r holl gŵn sydd ar y safle ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i’w hailgartrefu’n ddiogel.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae’r canlyniad hwn yn adlewyrchu difrifoldeb yr effaith hirfaith ar y gymuned ac ymrwymiad y Cyngor i amddiffyn hawl trigolion i fwynhau eu cartrefi mewn hedd. “Byddwn ni’n parhau i fonitro cydymffurfiaeth â’r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ac yn cymryd camau pellach os oes angen.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Erthygl nesaf Ageing Well event at Ty Pawb Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English