Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Castanwydden Ber Wrecsam Wedi Cyrraedd y Rhestr Fer Ar Gyfer Gwobr “Coeden y Flwyddyn” Coed Cadw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Castanwydden Ber Wrecsam Wedi Cyrraedd y Rhestr Fer Ar Gyfer Gwobr “Coeden y Flwyddyn” Coed Cadw
Y cyngorPobl a lle

Mae Castanwydden Ber Wrecsam Wedi Cyrraedd y Rhestr Fer Ar Gyfer Gwobr “Coeden y Flwyddyn” Coed Cadw

Diweddarwyd diwethaf: Awst 22, 2023 12:14 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Tree of the Year
RHANNU

Mae panel o arbenigwyr Coed Cadw wedi dewis 12 o gystadleuwyr trefol diddorol ledled y DU i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Coeden y Flwyddyn 2023 – gydag un goeden ychwanegol yn cael ei dewis gan y cyhoedd.

Mae’r gystadleuaeth eleni’n canolbwyntio ar goed hynafol mewn lleoliadau trefol; mae bob un ohonynt mewn lleoliadau hygyrch ac ar gael i bobl ymweld â nhw ar unrhyw bryd yn rhad ac am ddim (mewn parciau dinas, canol trefi prysur ac ar strydoedd preswyl).  Mae hanes arbennig i bob un ohonynt ac fe’u hedmygir gan drigolion lleol, yn ogystal â hynny, maent yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan helpu i leihau llifogydd, sgrinio sŵn, darparu cysgod, hidlo llygredd aer, cynyddu gwerth eiddo a chyflwyno elfen ddiwylliannol i’n strydoedd a’n parciau.

Yng Nghymru, mae Coed Cadw wedi dewis Castanwydden Bêr ym Mharc Acton, Wrecsam ar gyfer y rhestr fer.  Mae cwmpas y goeden yn 6.1m a’i huchder yn 24m, sy’n awgrymu ei bod wedi bod yn sefyll ers oddeutu 490 o flynyddoedd.  Mae wedi gwrthsefyll nifer fawr o heriau yn ystod ei hanner mileniwm ar y ddaear, o ddinistrio’r parc er mwyn cael coed tân yn y 1940au yn dilyn y rhyfel, i ddwsinau o stormydd angheuol, gan gynnwys yn 2021 pan gollodd nifer o’r coed amgylchynol eu canghennau neu eu chwythu i’r llawr yn llwyr.   Mae’r goeden fawreddog bellach yn nodwedd bwysig o ddigwyddiadau cymunedol megis dathliadau’r parti coed eleni ac yn boblogaidd iawn ymhlith trigolion lleol yn sgil ei hanes, gwerth a’i harddwch.  

Mae coed yn adnabyddus ac yn destun dathlu yn Wrecsam; mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gwneud ei ‘Haddewid Coetir’ i helpu i ddiogelu coed a choedwigoedd ar draws y fwrdeistref sirol – ac yn annog unrhyw un i ymuno, gan gynnwys busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol.

“Mae coed hynafol mewn trefi a dinasoedd yn hanfodol ar gyfer iechyd natur, pobl a’r blaned.  Maent yn cynnal bywydau miloedd o rywogaethau bywyd gwyllt trefol ac yn rhoi hwb i fioamrywiaeth y DU yn ogystal â sicrhau buddion iechyd a lles diddiwedd i gymunedau”, meddai Clare Morgan, Coed Cadw.

“Mae’n wych gweld y goeden hon yn cael ei dathlu – mae hi mewn ardal boblogaidd iawn ymhlith y gymuned leol yn ogystal â chwilotwyr; a gobeithiwn y bydd pawb yng Nghymru’n cymryd rhan ac yn pleidleisio ar gyfer y goeden arbennig hon.” meddai’r Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd yng Nghyngor Wrecsam .

Anogir y cyhoedd yng Nghymru i bleidleisio ar gyfer Castanwydden Bêr Wrecsam a’i helpu i ennill y gystadleuaeth eleni; mae’r pleidleisiau ar gyfer Coeden y Flwyddyn Coed Cadw 2023 bellach ar agor a’r dyddiad cau yw dydd Sul, 15 Hydref.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, 19 Hydref ac yn mynd ymlaen i gynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn Ewrop.

Gweddill y coed yn du sydd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer:

Castanwydden Bêr Parc Greenwich, Llundain  

Coeden dderw fythwyrdd, Exeter, Devon 

Coeden bysedd y cŵn y gadeirlan, Lichfield, Swydd Stafford 

Derwen fythwyrdd wrth y llyn, Leamington Spa, Swydd Warwick 

Derwen ‘Crouch Oak’, Addlestone, Surrey 

Aethnen Parc Gorton, Manceinion

Derwen Grantham, Grantham, Swydd Lincoln 

Llwyfen Chelsea Road, Sheffield, De Swydd Efrog 

Coeden Ellyg Plymouth, Plymouth, Dyfnaint  

Collen Ffrengig Porth yr Ucheldir, Perth 

Derwen Belvoir, Belfast  

Enwebiad y cyhoedd – Derwen fythwyrdd y llyfrgell, Westbury, Wiltshire

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae ein criwiau sbwriel ac ailgylchu yn gweithio ar ddydd Llun gŵyl y banc, 28 Awst Mae ein criwiau sbwriel ac ailgylchu yn gweithio ar ddydd Llun gŵyl y banc, 28 Awst
Erthygl nesaf cost of living Ymgynghoriad Premiymau Treth y Cyngor – Rydym eisiau clywed eich barn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English