Fel y bydd llawer eisoes yn gwybod, mae gan Wrecsam dreftadaeth gyfoethog iawn o ran marchnadoedd dan do sydd wedi gwrthsefyll prawf amser.
Ac, yn sicr, dydy’r traddodiad lleol hwnnw heb ddiflannu yma yng Nghanol y Ddinas.
Yn dilyn prosiectau adfer helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gan Farchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol yr un teimlad, golwg a dyluniad â marchnadoedd traddodiadol, Fictoraidd gydag elfennau modern sydd wedi galluogi’r stondinau i gadw i fyny â’r oes fodern a disgwyliadau’r cyhoedd.
Gall siopwyr fwynhau profiad manwerthu unigryw ac amrywiol ar draws y ddwy farchnad gyda rhywbeth at ddant pawb.
Felly, boed hynny’n rhywbeth newydd i’w wisgo ar gyfer y penwythnos, llyfr newydd, trwsio dillad ac esgidiau, neu ffilmiau a cherddoriaeth.
Bydd gan Farchnadoedd Wrecsam y peth i chi.
Mynd yn groes i’r lli
Gall y cynnydd mewn siopa ar-lein, gwasanaethau dosbarthu i’r cartref a’r nifer o weithredwyr cadwyn sy’n cyflawni’r gwasanaethau hyn ymddangos fel bygythiad i gynaliadwyedd hirdymor marchnadoedd dan do mewn ffordd nad yw llawer o bethau wedi’u gwneud o’r blaen.
Ond, yn aml, gall yr “effaith McDonald’s”, neu’r seicoleg y tu ôl i natur ddisgwyliadwy brandiau byd-eang, dynnu sylw pobl oddi wrth yr hyn sydd ar gael ar stepen ein drws.
Ond mae ein stondinwyr yn Wrecsam yn benderfynol o newid y duedd honno a rhoi pob cyfle i bobl gymryd rhan a phrofi’r gorau o’r hyn sydd gan siopa yn y farchnad i’w gynnig.
Awydd rhoi cynnig arni?
Ar hyn o bryd, mae lleoedd ar gael mewn stondinau ar draws y ddwy farchnad am brisiau rhesymol iawn.
Mae amrywiaeth o stondinau marchnad o wahanol faint ar gael i’w rhentu gyda phrisiau yn dechrau o £175 y mis yn unig.
Felly, os ydych chi’n rhedeg busnes bach ac efallai’n meddwl am ehangu a rhoi cynnig ar redeg stondin mewn marchnad…
Cysylltwch â thîm Marchnadoedd Wrecsam neu’r tîm Cymorth Busnes.
Y cynlluniau ar gyfer gweddill 2026 gan gynnwys y Nadolig
Bydd y marchnadoedd ar agor tan 8pm ddydd Sadwrn 14 Tachwedd ar gyfer digwyddiad cynnau’r goleuadau Nadolig, gyda siopa hwyr yn y nos bob dydd Iau ym mis Rhagfyr tan 8pm (3, 10 ac 17 Rhagfyr).
Byddan nhw hefyd ar agor bob dydd Sul ym mis Rhagfyr 11am-3pm (6, 13, 20 Rhagfyr) gydag oriau masnachu estynedig ar gyfer y Farchnad Nadolig Fictoraidd: Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn ar agor tan 8pm, ar agor 11am-4pm ar ddydd Sul gyda stondinau dros dro trwy gydol y 4 diwrnod rhwng 26a 29 Tachwedd
Yn ogystal, bydd groto Siôn Corn ym Marchnad y Cigyddion trwy gydol mis Rhagfyr.
Tipyn o amserlen!
Gair i gloi…
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: – “Mae’r buddsoddiad y mae’r ddwy farchnad yn Wrecsam wedi’i gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ychwanegiad gwych a buddiol i ganol y ddinas, sy’n ymfalchïo mewn hanes cyfoethog o farchnadoedd dan do a masnach o’r natur hon.
“Dylid dathlu parhad a gwaith moderneiddio’r marchnadoedd hyn trwy gyllid cyhoeddus sylweddol a dylid manteisio i’r eithaf ar y cyfleusterau modern a chynhwysfawr eu hunain a’r cymorth a gynigir gan ein Tîm Cymorth Busnes i fusnesau newydd ac entrepreneuriaid.
“Dyna pam y byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu stondin yng nghanol y ddinas i gysylltu â ni a dechrau ar eu taith tuag at fenter fusnes lwyddiannus yn Wrecsam.
“Mae Wrecsam ar gynnydd yn gyffredinol ac mae’n gyfle gwych i chwarae eich rhan yn y cynnydd hwnnw.”


