Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lleDigwyddiadau

Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!

Diweddarwyd diwethaf: November 6, 2026 12:08 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrecswyl Logo
RHANNU

Bydd Wrecswyl – gŵyl gerddoriaeth a diwylliant Gymraeg newydd sbon – yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Tŷ Pawb, Wrecsam, ar y 7fed o Dachwedd.

Cynnwys
  • Gŵyl am ddim lle mae croeso i bawb
  • Amserlen Lawn
  • Amserlen llawn
    • NOSON CERDDORIAETH FYW (gyda Focus Wales)
  • Hefyd yn Wrecsam

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan bartneriaeth o sefydliadau lleol, yn dod â cherddoriaeth fyw, llenyddiaeth, gweithgareddau hwyliog i deuluoedd a chyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ynghyd, mewn dathliad bywiog o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y ddinas.

Yn ogystal â’r digwyddiad yn Tŷ Pawb, bydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Wrecsam ac yng Ngholeg Cambria – gweler yr amserlen lawn isod.

Daw’r digwyddiad ar adeg gyffrous i Wrecsam, sydd yn y ras i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029.

Gŵyl am ddim lle mae croeso i bawb

Dywedodd Stephen Jones, Swyddog Strategol y Gymraeg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Wrecswyl am y tro cyntaf, gyda’r nod o adeiladu ar etifeddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn lle i bobl ddod at ei gilydd i ddefnyddio, clywed a mwynhau’r Gymraeg mewn awyrgylch croesawgar – boed yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr, neu’n bobl sy’n awyddus i brofi diwylliant Cymraeg lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’n wych gweld y digwyddiad cyntaf erioed o Wrecswyl yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ar 7 Tachwedd. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg – waeth beth yw eu gallu i siarad yr iaith – i ddod draw a mwynhau’r gorau sydd gan y diwrnod i’w gynnig.”

“Mae’r Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig yn rhan bwysig o’n cais am Ddinas Diwylliant y DU ac mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o weithgareddau i gefnogi’r cais.”

Mae’r digwyddiad wedi bod yn bosibl diolch i Lywodraeth Cymru, Coleg Cambria, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Dysgu Cymraeg, Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Y Sîn ar y Ffin, FOCUS Wales, Prifysgol Wrecsam, a Dydd Miwsig Cymru.

Amserlen Lawn

(Sgroliwch i lawr i weld yr amserlen ar ffurf testun)

Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!

Amserlen llawn

10am–4pm
Celf a chrefft gyda Dwylo Bler

10am-3pm
Cerddoriaeth fyw a chorau yn yr Ardal Fwyd a’r Gofod Hyblyg:
10am – Wrexham All Voices Choir
10.15am – Ysgol Bro Alun
10.30am – Ysgol Maelor
10.45am – Coleg Cambria
11am – Ysgol Morgan Llwyd
11.30am – Osian Powell Jones
12pm – Dynamic Singing Sensations
12.30pm – Cor Daw
1pm – Cor y Pentan
1.30pm – Igloo Hearts
1.45pm – Ysgol Plas Coch
2pm – Lleisiau Ceiriog
2.30pm – Lleisiau Clywedog

10am
Tylino Babanod hefo Cymraeg i Blant

11am
Sioe Hud hefo Professor Llusern

12pm
Bîtbocsio gyda Mr Phormula

1pm
Sesiwn Stori a Chân gyda Magi Ann

1.30pm
Stori a Gweithdy ‘Dewin y Nos’ gyda Theatr Clwyd

2.30pm
Disgo Tawel gyda Menter Iaith

3pm
Bîtbocsio gyda Mr Phormula

4pm
Twmpath Teulu – Dawnsio Gwerin Cymreig gyda Dawnswyr Delyn

NOSON CERDDORIAETH FYW (gyda Focus Wales)

5.30pm-10.30pm
Andy Hickie
Tara Bandito
Morgan Elwy ar Band Hudol
Papur Wal
Band Pres Llareggub

Hefyd yn Wrecsam

9.30am-12.30am
Canolfan CAMU Coleg Cambria
Dathlu Dysgu Cymraeg
Gweithdai ac adloniant i ddysgwyr Cymraeg

2pm
Llyfrgell Wrecsam
Sesiwn holi ac ateb gydag Elin Undeg Williams ac Iestyn Tyne

3pm
Llyfrgell Wrecsam
Ysgrifennu Creadigol gyda chyfoedion Tesni

Be sy’ mlaen yn Tŷ Pawb

Rhannu
Erthygl flaenorol Library Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Library
Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn
Y cyngor Pobl a lle
November 5, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026
Pobl a lle
November 5, 2026
Walking
Ewch yn Lleol ym mis Tachwedd
Pobl a lle Arall
November 5, 2026
Maes Parcio
🚗🚌 Wrecsam v Wolves – beth am Barcio a Theithio? ⚽
Pobl a lle Digwyddiadau
November 5, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Digwyddiadau

Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni

November 3, 2026
Vote
Pobl a lleBusnes ac addysg

Mewn dau le ar yr un pryd…

November 2, 2026
Ruthin Road Car Park
Digwyddiadau

Wrecsam v Middlesbrough – cofiwch barcio a theithio 🚗🚌

October 29, 2026
Armed Forces
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄

October 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English