Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn aildrefnu casgliadau bin i ymdopi â’r streiciau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wrecsam yn aildrefnu casgliadau bin i ymdopi â’r streiciau
Y cyngorPobl a lle

Wrecsam yn aildrefnu casgliadau bin i ymdopi â’r streiciau

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 12, 2023 12:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Newidiadau dros dro i gasgliadau o 9 Hydref
RHANNU

Y wybodaeth ddiweddaraf am effaith y streic

Mae’n debyg eich bod yn ymwybodol fod Unite the Union yn bwriadu parhau â’r cyfnod presennol o weithredu diwydiannol hyd at Dachwedd 24, 2023. Gyda hyn mewn golwg rydym wedi bod yn gweithio i lunio cynllun ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu dros yr wythnosau nesaf.

Cynnwys
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am effaith y streic
    • Pethau eraill o bwys

O ddydd Llun, 9 Hydref, bydd newid dros dro i’r amserlen casglu yn ystod y camau gweithredu diwydiannol parhaus.

Mae’r amserlen casglu dros dro (o 9 Hydref) yn golygu y caiff eich casgliadau eu rhannu’n gylch tair wythnos, pan fyddwn yn ceisio casglu:

  • Eich biniau du/glas a’ch gwastraff bwyd un wythnos
  • Eich deunydd ailgylchu sych a’ch gwastraff bwyd un wythnos
  • Dim casgliad am un o’r wythnosau

Mae’n bwysig nodi nad yn y drefn hon y caiff eich gwastraff ei gasglu o reidrwydd, e.e. efallai y bydd eich bin du yn cael ei gasglu yn yr wythnos gyntaf, efallai y caiff ei gasglu yn yr ail neu’r drydedd wythnos, sef pam mae’n bwysig iawn gwirio eich diwrnod casglu yn gyntaf bob amser.

Yn ystod y cyfnod hwn, y ffordd orau o wirio eich diwrnodau casglu yw rhoi eich cod post yn yr adran gwirio’ch diwrnod bin ar ein gwefan.

Rhannwch y wybodaeth hon gyda’ch ffrindiau, teulu a chymdogion na fyddant efallai wedi gweld ein diweddariadau, neu a allai fod angen cymorth i wirio eu dyddiadau casglu newydd.

Mae cymorth ychwanegol i wirio dyddiadau casglu sydd wedi’u diweddaru hefyd ar gael trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01978 298989 neu e-bostio cysylltwch@wrecsam.gov.uk neu gallwch alw heibio i’ch swyddfa stad dai leol.

Rydym wedi gorfod gwneud y newidiadau hyn wrth i ni barhau i gydbwyso’r adnoddau sydd gennym ar draws y rowndiau casglu, ac ar hyn o bryd, dim ond casgliadau ar amlder a reolir y gallwn eu cynnig.

Bydd y newidiadau hyn yn digwydd o ddydd Llun, 9 Hydref, ac maen nhw’n disodli unrhyw ohebiaeth flaenorol a gawsoch.

Pethau eraill o bwys

• Gallai tywydd gaeafol effeithio ar ein gallu i ddilyn yr amserlen arfaethedig
• Gellir casglu bagiau cadi a sachau glas ychwanegol o amryw leoliadau ar draws Wrecsam

Rydym yn sylweddoli bod y tarfu hwn ar eich casgliadau’n rhwystredig ond rydym yn gweithio’n galed i geisio rheoli ein gwasanaethau a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus.

Er ein bod wedi rhoi amlinelliad o’r hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud, rydym yn gweithio drwy gyfnod o weithredu diwydiannol ac mae’n rhaid i ni asesu’r adnoddau sydd ar gael ar sail ddyddiol – yn ogystal â chydbwyso’r galw am wasanaethau hanfodol eraill (er enghraifft ymateb i argyfyngau yn ystod tywydd garw).

GWIRIO FY NIWRNOD CASGLU BINIAU

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Wastraff Gardd
Rhannu
Erthygl flaenorol Carers in Wrexham Fforwm newydd i ofalwyr di-dâl yn Wrecsam
Erthygl nesaf y comisiwn ethaliadol Ydych chi wedi cadarnhau eich manylion eto?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English