Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 52 o bethau nad oeddech yn eu gwybod am Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > 52 o bethau nad oeddech yn eu gwybod am Wrecsam
Pobl a lle

52 o bethau nad oeddech yn eu gwybod am Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 13, 2023 3:49 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrexham facts!
RHANNU

Wel…efallai y byddwch yn gwybod am rai ohonynt 😉

Y tro nesaf y byddwch yn cerdded heibio Llyfrgell Wrecsam, edrychwch i fyny…ac efallai fe ddysgwch ffaith ddifyr am y fwrdeistref sirol!

Bob wythnos am y 52 wythnos nesaf, byddwn yn rhannu ffaith am Wrecsam ar y sgrin ddigidol y tu allan i brif fynedfa’r llyfrgell – yn amrywio o hanesion adnabyddus am Lager Wrecsam a’r clwb pêl-droed i rai llai adnabyddus am Ymosodiad y Marchoglu Ysgafn, neu’r record cyflymder ar dir.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae gan Wrecsam ddiwylliant a hanes cyfoethog iawn, ac mae llawer iawn o ffeithiau a ffigyrau diddorol am y fwrdeistref sirol.

“Bydd llawer o bobl yn ymwybodol o rai o’r ffeithiau y byddwn yn eu dangos ar y sgrin – er enghraifft, mae llawer yn gwybod bod Lager Wrecsam yn un o’r diodydd a oedd yn cael ei weini ar y Titanic. Ond bydd ffeithiau eraill yn siŵr o’ch synnu…hyd yn oed y rhai ohonoch sydd wedi cael eich magu yn Wrecsam!

“Mae’n ffordd hwyliog o dynnu sylw at rai o’r amryw o bethau bendigedig a difyr am Wrecsam.”

Gosodwyd y sgrin ar ochr y llyfrgell ar ddiwedd mis Awst er mwyn helpu i hyrwyddo digwyddiadau, gweithgareddau, gwasanaethau cyhoeddus a gwybodaeth arall.

Mae’n rhan o fenter Dinas SMART y cyngor, ac yn cael ei hariannu gan grant gan y Cynllun Trawsnewid Trefi.

Meddai’r Cynghorydd Williams: “Rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg yng nghanol ein dinas i wella’r profiad i siopwyr, gweithwyr a defnyddwyr hamdden eraill.

“Dim ond un enghraifft yw’r sgrin hon, ond os yw’n gweithio’n dda gallai baratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau pellach yn y modd yr ydym yn defnyddio llwyfannau digidol i rannu gwybodaeth gyda defnyddwyr canol y ddinas.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Taith gerdded 406 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu. Taith gerdded 406 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu.
Erthygl nesaf B Hwb o £200,000 i wasanaethau bws yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English