Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer parth buddsoddi gyda gwerth o £80 miliwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer parth buddsoddi gyda gwerth o £80 miliwn
Busnes ac addysg

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer parth buddsoddi gyda gwerth o £80 miliwn

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 10, 2023 2:40 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
The Guildhall, Wrexham
The court hearing followed a detailed investigation by Trading Standards Officers from Wrexham Council’s Public Protection service. Image shows the Guildhall in Wrexham.
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu’r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r galw i greu parth buddsoddi newydd a allai helpu i atgyfnerthu economi Gogledd Ddwyrain Cymru.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n creu 12 parth buddsoddi newydd, gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat yn awyddus i weld un o’r parthau’n cael ei leoli yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae pob Parth Buddsoddi’n derbyn cyllid o £80 miliwn, i’w ddefnyddio dros bum mlynedd ar gyfer prosiectau arloesi, isadeiledd, a sgiliau a hyfforddiant yn y sectorau’n cael eu targedu.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydw i’n falch fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r galw am barth buddsoddi yn Wrecsam a Sir y Fflint.

“Mae llawer iawn o botensial yn yr ardal hon sy’n gartref i entrepreneuriaid talentog a chwmnïau arloesol a fydd yn helpu i ddatblygu hyn ymhellach.

“Hoffwn ddiolch i Ashley Rogers yng Nghyngor Busnes Gogledd Cymru, a Joanna Swash o Moneypenny, yn ogystal â JCB, Airbus, Networld Sports, AMCR Cymru, Theatr Clwyd, Prifysgol Wrecsam a’r holl sefydliadau ac unigolion eraill sy’n helpu i wneud achos cadarn iawn ar gyfer parth buddsoddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

“Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir y Fflint am weithio gyda ni ar y fenter bwysig hon hefyd.

“Mae Wrecsam ar frig y don ar hyn o bryd diolch i gynnydd yn ei phroffil byd-eang, a bydd parth buddsoddi’n helpu i ennyn rhagor o ddiddordeb a buddsoddiadau busnes yn yr ardal.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Victorian Market Marchnad Nadolig Fictoraidd 7 Rhagfyr, 12-8pm.
Erthygl nesaf White Ribbon Ymunwch â ni yn Tŷ Pawb i ddathlu Diwrnod y Rhuban Gwyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Gorffennaf 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English