Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofalwyr di-dâl – sicrhau eich bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gofalwyr di-dâl – sicrhau eich bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi
Pobl a lle

Gofalwyr di-dâl – sicrhau eich bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 17, 2023 2:36 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Support work jobs homecare reablement
RHANNU

Bob blwyddyn, mae Gofalwyr Cymru, fel rhan o Ofalwyr y DU yn cynnal arolwg o ofalwyr i ddeall y sefyllfa o ran gofalu. Eleni, mae’r arolwg wedi dangos fod gofalwyr di-dâl yn ei chael hi hyd yn oed yn anoddach yn ariannol.

Cynnwys
  • “Rydym wedi ceisio ei gwneud yn haws i ofalwyr gael y cymorth maent ei angen”
    • Pa gymorth sydd ar gael?
      • GOGDdC
      • Gofalwyr Ifanc WCD

Rhai o’r canfyddiadau oedd fod 76% o ofalwyr di-dâl sy’n cael lwfans gofalwyr yn ei chael yn anodd o ran pwysau costau byw,  Mae 48% yn gwario llai ar bethau hanfodol, gan gynnwys bwyd a gwresogi, a dywedodd 49% eu bod yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae mwy o fanylion am yr adroddiad ar wefan Gofalwyr y DU.

“Rydym wedi ceisio ei gwneud yn haws i ofalwyr gael y cymorth maent ei angen”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae arolwg Gofalwyr Cymru wedi dangos pa mor anodd yw hi i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Rydym yn gwybod o ddata’r cyfrifiad diweddaraf fod gennym dros 13,000 o ofalwyr di-dâl yn Wrecsam ac rydym wedi ceisio ei gwneud yn haws i ofalwyr gael y cymorth maent ei angen. Rydym yn parhau i wella gwasanaethau i ofalwyr di-dâl yn Wrecsam, ac rydym eisiau gwneud popeth a allwn i wneud ein gofalwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth, cefnogaeth a dewisiadau o ran seibiant sydd ar gael iddynt.”

Pa gymorth sydd ar gael?

Yn Wrecsam, gall gofalwyr di-dâl gael gafael ar gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor gan GOGDdC, a gall gofalwyr ifanc gael gafael ar gefnogaeth drwy Ofalwyr Ifanc WCD.

GOGDdC

Mae GOGDdC (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru) yn cynnal grwpiau, yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cynnal asesiad o anghenion gofalwyr (sgyrsiau Beth sy’n Bwysig) ar ran Cyngor Wrecsam.

Mae ganddynt ganolfan gofalwyr yn 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT (y tu ôl i Westy’r Ramada).

Os ydych yn rhoi gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog gallwch gysylltu â GOGDdC i wybod mwy am y gwahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael.

Gofalwyr Ifanc WCD

Mae Gofalwyr Ifanc WCD yn rhan o’r teulu Credu a gomisiynir gan Gyngor Wrecsam yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn sicrhau bod gofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn greiddiol i bopeth a wnânt.

Os ydych yn ofalwr ifanc sy’n rhoi gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog gallwch gysylltu â Gofalwyr Ifanc WCD i wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael.

Cymorth gyda chyllid

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cymorth a chyngor ariannol i bawb, nid dim ond gofalwyr di-dâl.

Mae gan Cyngor ar Bopeth Wrecsam sesiynau galw heibio rheolaidd ar draws Wrecsam, neu gallwch gysylltu â’r gwasanaeth trwy ei wefan neu trwy ffonio 0300 330 1178.

Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2023 – mynnwch y cymorth, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ei angen arnoch – Newyddion Cyngor Wrecsam

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

TAGGED:carercaringgofalwyr
Rhannu
Erthygl flaenorol Diolch Fawr i Chapter Court am Goeden Nadolig eleni Diolch Fawr i Chapter Court am Goeden Nadolig eleni
Erthygl nesaf CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025 CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English