Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwrs Llysgennad Wrecsam yn tyfu – gyda rhagor o fodiwlau yn cael eu cyhoeddi yn ystod dathliad cyntaf Wythnos Llysgenhadon Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cwrs Llysgennad Wrecsam yn tyfu – gyda rhagor o fodiwlau yn cael eu cyhoeddi yn ystod dathliad cyntaf Wythnos Llysgenhadon Cymru
Busnes ac addysg

Cwrs Llysgennad Wrecsam yn tyfu – gyda rhagor o fodiwlau yn cael eu cyhoeddi yn ystod dathliad cyntaf Wythnos Llysgenhadon Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2023/12/07 at 2:33 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham tourism ambassadors
RHANNU

Mae Cwrs Llysgennad Twristiaeth ar-lein Wrecsam wedi cyhoeddi tri modiwl arall, yn dilyn llwyddiant y modiwlau Efydd cyntaf, a lansiwyd yn gynharach eleni!

Mae cwrs Wrecsam yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru.

Mae gan gyfranogwyr gyfle i gwblhau’r tri modiwl arall am Wrecsam yn awr, ac ar ôl eu cwblhau byddant yn Llysgenhadon Arian.

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru ar gael i bawb ac mae’n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw pob lle. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu. Mae hyn yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sy’n cael eu cwblhau. Anfonir gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau i bawb sy’n cwblhau’r lefelau.

Ar hyn o bryd mae dros 3,750 o bobl wedi cofrestru i’r cynllun ledled Cymru, gyda dros 2,700 o bobl yn cyrraedd lefel efydd, nid yn unig o Gymru ond o bob rhan o’r DU a thu hwnt. Dyfarnwyd 6,243 o fathodynnau efydd, arian ac aur gyda thua dwy ran o dair o’r cyflawnwyr efydd yn mynd ymlaen i gyflawni aur. Mae 15-20% o ddefnyddwyr yn cofrestru ar fwy nag un cwrs.

Ychwanegodd y Llysgennad, Jen Brierley: “Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fyw yng Nghymru. O fy nghartref gallaf ymweld â thraethau hyfryd, tirweddau mynyddig a bryniau godidog. Gallaf fynd allan a gwylio’r haul yn machlud o frig bryngaer hynafol neu fynd am dro i’r pwynt lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr gan fwynhau’r golygfeydd sy’n newid drwy’r amser mewn goleuadau gwahanol.

“Yr hyn yr wyf yn ei garu am fod yn Llysgennad Twristiaeth Cymru yw fy mod yn gallu ehangu fy ngwybodaeth am y lle hyfryd yr wyf yn ei alw’n gartref, a’i rannu gydag eraill ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel bod modd iddynt hwythau fwynhau’r lle arbennig hwn hefyd, wyneb yn wyneb, neu drwy fy lluniau.”

Gyda chwe modiwl ar gael yn awr, mae tîm Llysgenhadon Wrecsam yn bwriadu cyflwyno’r pedwar modiwl arall ar ddechrau 2024, gan alluogi’r rhai sydd wedi cofrestru i gwblhau’r cwrs a dod yn Llysgenhadon Aur.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae gan Wrecsam lysgenhadon gwych eisoes, ac rydym yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Mae angen i ni ategu at yr ymwybyddiaeth fyd-eang, a dweud wrth bobl – drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar lafar – pa mor wych yw’r lle. Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gofrestru ar gyfer y cwrs a dod yn llysgennad twristiaeth ar gyfer Wrecsam!”

I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam ac i gofrestru, ewch i Llysgenhadon Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru (ambassador.wales)

Rhannu
Erthygl flaenorol key in door - wrexham council housing Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Erthygl nesaf fenthycwyr arian Peidiwch â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded y ‘Dolig hwn

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg

Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio

Ionawr 15, 2026
financial hep
Busnes ac addysg

Nodyn Atgoffa: Gall POB plentyn yn yr ysgol gynradd gael prydau ysgol am ddim

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English