Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol sy’n derbyn gofal
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol sy’n derbyn gofal
Y cyngorPobl a lle

‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol sy’n derbyn gofal

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2023 10:39 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Foster Wales
RHANNU

Mae dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Yn Wrecsam, mae yna 304 o blant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.  Ac er bod gennym dîm ymroddedig o 39 o ofalwyr maeth a 51 o ofalwyr cysylltiedig, maent ond yn gallu darparu cymorth hanfodol i 120 o blant a phobl ifanc.

Yn anffodus, er bod nifer y plant sy’n derbyn gofal yn parhau i godi bob blwyddyn, mae nifer y gofalwyr maeth newydd sy’n cael eu cymeradwyo yn lleihau, sy’n achosi pryder.   Felly rydym yn wynebu’r her o gadw ar yr un cyflymder â’r galw cynyddol ac rydym angen 30 o ofalwyr maeth newydd ar frys bob blwyddyn ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.   

Roedd gan Faethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 awdurdod lleol Cymru – y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Mae Maethu Cymru Wrecsam wedi ymuno â’r ymgyrch newydd hon o’r enw ‘gall pawb gynnig rhywbeth’, gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach, ond sylweddol, sydd gan bobl a all wneud y byd o wahaniaeth i unigolyn sy’n derbyn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch, yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd a’r rhai sy’n gadael gofal.

Roedd yr ymatebion gan y grwpiau hyn yn tynnu sylw at dri peth allweddol a oedd yn rhwystro gofalwyr posibl rhag ymholi:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn sy’n derbyn gofal
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw
  • Camddealltwriaeth ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gan ofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda’r awdurdod lleol yn hyblyg, cynhwysol, ac yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Mae Cath a Neil yn ofalwyr maeth hirdymor yn Wrecsam.  Mae eu hamynedd a’u dyfalbarhad wrth oresgyn yr ansicrwydd o ran bwyd y mae eu plant maeth yn ei deimlo yn dangos mai meddylgarwch, tosturi a dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn yw’r ‘sgil’ pwysicaf sydd ei angen arnoch fel gofalwr.  Dywedon nhw: “Roedd gennym yr holl sgiliau a oedd ei angen arnom i ddod yn ofalwyr maeth eisoes, ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddynt y sgiliau hefyd.  I ni, mae dod yn ofalwyr maeth wedi bod yn broses ddysgu anferth – ond ar ôl troi at Faethu Cymru Wrecsam rydym yn sicr yn teimlo’n gartrefol.” 

Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran gwasanaethau plant

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant, a gafodd ei gynnig yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gan wneud ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu ddielw, a bydd yr angen am ofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn fwy nag erioed.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Wrecsam:  “Mae ein gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn Maethu Cymru Wrecsam yn gwneud gwaith anhygoel, yn cefnogi plant drwy gynnig eu sgiliau, profiad, empathi a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel.  “Ond mae angen i ni recriwtio mwy o bobl anhygoel yn ein hardal i sicrhau bod yr holl blant lleol sydd ei angen yn cael cartref croesawgar a’r gofalwr maeth iawn ar eu cyfer.

“Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Wrecsam, bydd y tîm yn sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicaf oll, gallwch helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i rannu eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â Maethu Cymru Wrecsam.”

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun, 8 Ionawr 2024 ar y teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol ac mewn amrywiol ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol ar draws Cymru.   

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad ewch i wefan Maethu Cymru Wrecsam neu ffoniwch 01978 295366 i siarad ag aelod o’n tîm recriwtio.

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Dementia Community Listening Campaign Helpwch i wella gofal dementia yn Wrecsam – nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud!
Erthygl nesaf Freedom Leisure Canolfannau Hamdden Freedom Leisure yng Nghymru yn Cymryd Camau Breision Tuag Effeithlonrwydd Ynni Gwell

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English