Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Arddangosfa enfawr 80m o hyd yn dod i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 2, 2026 4:47 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
The Longest Yarn in Wrexham
RHANNU

Mae gweuwyr a chroswyr lleol wedi sôn am eu balchder o helpu i greu arddangosfa anhygoel 80 metr o hyd ar thema’r Ail Ryfel Byd a fydd yn cael ei harddangos yn Wrecsam yr wythnos nesaf (o ddydd Llun, Hydref 5).

Mae The Longest Yarn 2 wedi’i chreu gan wirfoddolwyr o bob cwr o’r byd, ac mae’n dod â phrofiad Prydain o’r rhyfel yn fyw.

O D-Day a Brwydr Prydain i fywyd bob dydd ar y Ffrynt Cartref, mae pob golygfa wedi’i hymchwilio, ei dylunio a’i gwneud â llaw.

Mae’r arddangosfa, sy’n cynnwys 80 o baneli celf wedi’u gwau a’u crosio, ar daith o gwmpas y DU ar hyn o bryd, ac mae disgwyl iddi agor i’r cyhoedd yn Eglwys San Silyn yn Wrecsam ddydd Llun, 5 Hydref.

Mae cysylltiad lleol pwysig â’r arddangosfa, gan fod dwy o’r golygfeydd wedi’u creu gan grwpiau crefft yma yn Wrecsam – gan gynnwys grwpiau yn Hightown, Pentre Broughton a Brynteg, Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd, Gwersyllt a Llannerch Banna.

Mae’r golygfeydd yn darlunio awyrenwyr Pwylaidd yn ystod Brwydr Prydain, a’r Cynorthwywyr Cludiant Awyr (Air Transport Auxiliary) a hedfanodd awyrennau rhwng ffatrïoedd a sgwadronau rheng flaen.

The Longest Yarn 2
The Longest Yarn 2
Mae’r arddangosfa’n cynnwys dau banel wedi’u crefftio’n gariadus gan wnïwyr o Wrecsam.

Roedd Mai Rees Moulton yn un o’r gweuwyr a chroswyr lleol a gymerodd ran yn y prosiect, a chwaraeodd ran hanfodol wrth helpu i gydlynu gwaith grwpiau lleol.

Dywedodd Mai: “Mae’r paneli yn seiliedig ar ffotograffau go iawn o’r Ail Ryfel Byd, ac fe wnaethon ni geisio ail-greu’r golygfeydd mor gywir â phosibl.

“Byddai pob grŵp yn gweithio ar wau neu grosio ffigurau unigol, awyrennau a nodweddion eraill yn y ffotograffau, a oedd wedyn yn cael eu hanfon ata i er mwyn eu tynnu at ei gilydd i greu’r paneli terfynol.

“Mae hyd yn oed ci bach yn eistedd ar adain awyren yn un o’r golygfeydd – rhywbeth wedi’i gopïo’n syth o un o’r ffotograffau.

“Rydw i’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod i weld yr arddangosfa tra ei bod yn Eglwys San Silyn. Mae wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono, a rhyngom ni i gyd, mae’n rhaid ein bod ni wedi rhoi cannoedd o oriau…a phwythau!”

The Longest Yarn in Wrexham
The Longest Yarn in Wrexham

Mae Ann De Max yn wirfoddolwr lleol arall a weithiodd ar y prosiect, ynghyd â chydweithwyr yng ngrŵp gwau a chrosio Broughton a Brynteg.

Dywedodd Ann: “Roedd hi’n eithaf anodd, ond roedd hi’n hwyl ac yn hyfryd cyfrannu at y prosiect ar ran Wrecsam.
“Fe wnes i grosio un o’r awyrenwyr ac rydw i’n credu mai’r het oedd y rhan anoddaf! Roedd yna lawer o fanylion bach, felly roedd hi’n her, ond roedd hi’n bleserus iawn.

“Mae ein grŵp yn cyfarfod unwaith yr wythnos ac mae sgwrsio a gweld pawb yr un mor bwysig â’r crefftau, felly roedd yn hyfryd gweithio ar rywbeth gyda’n gilydd.

“Mae’n braf meddwl y bydd yr arddangosfa yn mynd ymlaen i ymweld â rhannau eraill o’r wlad, ac y bydd Wrecsam yn cael ei chynrychioli gyda’r ddau banel hyn. Roedd yn braf iawn bod yn rhan ohono ac rydw i’n gobeithio y bydd pobl yn galw heibio i Eglwys San Silyn i edrych arno.”

Darllenwch fwy am The Longest Yarn 2…

The Longest Yarn 2 – Britain at War

Eglwys San Silyn, Wrecsam

5 Hydref – 29 Hydref

Gweler gwefan Eglwys San Silyn ar gyfer oriau agor.

Mae mynediad i’r arddangosfa am ddim, ond croesewir rhodd o £5 y pen, sy’n cefnogi The Longest Yarn ac elusennau cyn-filwyr.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam letters at Erddig Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
Elevate Conference
Digwyddiadau

Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd

Medi 30, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English