Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 2, 2026 1:44 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrecsam letters at Erddig
RHANNU

Mae un o dirnodau newydd mwyaf adnabyddus Wrecsam wedi cyrraedd ei gartref diweddaraf, gyda llythrennau enfawr WRECSAM bellach yn cael lle balch ar safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Neuadd a Gerddi Erddig.

Mae’r gosodwaith trawiadol, sy’n eiddo i ac yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phartneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam, wedi symud i Erddig yn dilyn arhosiad llwyddiannus yn Stori Brymbo dros yr haf.

Bydd y llythrennau yn aros yn Erddig drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd, gan roi cyfle i ymwelwyr weld y gwaith celf – a thynnu lluniau ohono – gydag un o atyniadau hanesyddol mwyaf adnabyddus Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn y cefndir, cyn iddynt symud ymlaen unwaith eto i’w lleoliad nesaf, sy’n gyfrinach ar hyn o bryd.

Wedi’u crefftio gan yr artist enwog o Wrecsam, Simon O’Rourke, crëwyd llythrennau WRECSAM o un goeden dderw, bron i 200 mlwydd oed, a syrthiodd yn Nhrefalun.

Dadorchuddiwyd y gosodwaith yn Sgwâr y Frenhines ym mis Chwefror ac fe’i cynlluniwyd o’r cychwyn cyntaf i deithio o amgylch Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan greu canolbwynt nodedig mewn gwahanol leoliadau wrth annog trigolion ac ymwelwyr i ddarganfod mwy o’r ardal.

Mae cerfiadau cymhleth ar draws y llythrennau yn dathlu cymunedau, tirnodau a straeon Wrecsam, tra bod y strwythur dur maent yn sefyll arno yn adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol ac adeiledig gyfoethog y fwrdeistref sirol.

Mae’r cam diweddaraf yn cyfuno dau ddathliad o dreftadaeth Wrecsam – crefftwaith a straeon cyfoes gosodwaith WRECSAM a hanes, tirwedd a chasgliadau rhyfeddol Erddig.

Dywedodd Graeme Clark, Rheolwr Profiad Ymwelwyr yn Erddig: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu llythrennau WRECSAM i Erddig ar gyfer yr hydref. Maen nhw’n ddathliad gwych o Wrecsam – ei chymunedau, ei chreadigrwydd a’i threftadaeth – ac mae’r themâu hynny’n cysylltu mor naturiol â’r straeon rydyn ni’n eu rhannu yma yn Erddig.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau gweld y llythrennau yn y lleoliad gwahanol iawn hwn a bod eu hymweliad yn eu hannog nhw i archwilio mwy o Erddig ac ardal ehangach Wrecsam. Mae’r hydref yn amser arbennig ar draws yr ystâd – gyda’n Gŵyl Afalau yn lansio y penwythnos hwn, felly rydyn ni’n credu y byddan nhw’n ychwanegiad gwych i ymwelwyr yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd.”

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Yr holl syniad y tu ôl i lythrennau WRECSAM oedd na fydden nhw’n aros mewn un lle. Roedden ni eisiau iddyn nhw deithio o amgylch y fwrdeistref sirol, gan daflu goleuni ar wahanol gymunedau ac atyniadau a rhoi rheswm arall i bobl archwilio Wrecsam.

“Ar ôl arhosiad gwych yn Stori Brymbo, mae’n wych eu gweld nhw’n cyrraedd Erddig ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am eu croesawu.

“Mae’r llythrennau wedi dod yn symbol adnabyddus o Wrecsam yn gyflym ac mae’r bartneriaeth hon rhwng Cyngor Wrecsam a Dyma Wrecsam yn ein galluogi ni i’w defnyddio’n greadigol i hyrwyddo’r fwrdeistref sirol gyfan. Rydw i’n edrych ymlaen at weld digon o luniau o Erddig dros yr hydref – ac mae lleoliad cyffrous arall eisoes yn aros amdanyn nhw pan ddaw eu harhosiad i ben.”

Mae llythrennau WRECSAM yn rhan o bartneriaeth ehangach rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phartneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam i hyrwyddo Wrecsam fel cyrchfan i ymwelwyr, arddangos ei chymunedau a’i hatyniadau, ac annog pobl i archwilio mwy o’r fwrdeistref sirol.

Ers cael eu dadorchuddio yn gynharach eleni, mae’r llythrennau wedi darparu cefndir trawiadol ar gyfer ffotograffau a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol wrth helpu i adrodd stori Wrecsam trwy grefftwaith Simon O’Rourke a’r manylion sydd wedi’u hymgorffori trwy gydol y gosodwaith.

Bydd ymwelwyr yn gallu gweld llythrennau WRECSAM yn Erddig drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd.

A ble byddant yn ymddangos nesaf?

Am y tro, mae hynny’n parhau i fod yn gyfrinach – gyda’r cam nesaf ar eu taith o amgylch Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael ei ddatgelu yn ddiweddarach eleni!

Rhannu
Erthygl flaenorol Poppy field Wrecsam yn Cofio
Erthygl nesaf The Longest Yarn in Wrexham Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English