Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn dathlu ennill cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy gynnal gweithdai cymunedol newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn dathlu ennill cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy gynnal gweithdai cymunedol newydd
Pobl a lleArall

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn dathlu ennill cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy gynnal gweithdai cymunedol newydd

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 19, 2024 12:48 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Xplore
RHANNU

Mae’n bleser gan Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! gyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau addysg cymunedol sy’n ennyn diddordeb gyda diolch i gymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nod y digwyddiadau hyn ydy hyrwyddo undod cymunedol yn Wrecsam drwy gydweithio gyda grwpiau lleol. “Yn sgil ein partneriaeth gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin rydym wedi llwyddo i ddarparu cyfleoedd gwerth chweil er mwyn ymwneud gydag Xplore! yn ein cymunedau.” dywedodd Clair Griffiths, Cydlynydd Codi Arian ac Allgymorth Cymunedol. “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gynnig digwyddiadau sy’n ymwneud â sero net ac sy’n meithrin gwerthfawrogiad tuag at Sir Wrecsam.

Dyma’r digwyddiadau a’r gweithdai sydd ar y gweill:

  1. Canolfan Amlddiwylliannol, Clwb Ar ôl Ysgol – Clwb ar ôl ysgol llawn hwyl a chrefftau, lle caiff yr unigolion eu hannog i addurno eu bagiau cario  gyda hen ddeunyddiau a deunyddiau sydd wedi’u rhoddi, gyda phwyslais ar sero net. Bydd y clwb ar Ionawr y 9fed, Chwefror y 6ed a Mawrth y 3ydd yn Tŷ Pawb, ac yn dilyn hynny bydd digwyddiad dathlu yn Xplore! ar Ebrill yr 16eg.
  2.  Dewch i Greu gyda Hadau! – Gweithdy ar y cyd â Garddwyr Cymunedol Wrecsam, lle bydd cyfle i westeion ddysgu sut i greu papur hadau ynghyd â dysgu am yr wyddoniaeth sydd ynghlwm â’r sgil cynaliadwy hwn. Bydd y sesiynau ar Ionawr yr 20fed, Ionawr y 27ain a Chwefror y 3ydd yng nghanolfan gymunedol Tesco, Wrecsam.
  3. Cadlanciau Byddin Wrecsam – Gweithdy ar y cyd â Chadlanciau Byddin Wrecsam i wrthbwyso effaith amgylcheddol eu trafnidiaeth i’r sesiwn. Byddwn yn bwrw golwg ar ffyrdd o wella eu trefniadau trafnidiaeth presennol.
  4. Wrexham Sounds – Mae cyfle i Westeion sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ddysgu am yr wyddoniaeth sydd ynghlwm â dirgryniadau cerddorol, gan ddefnyddio offerynnau sydd wedi’u hailgylchu’n unig. Bydd y sesiynau ar Fawrth yr 2il, 9fed a’r 16eg.
  5.  Grŵp Pontio’r Cenedlaethau – Gweithdy lle bydd cyfle i oedolion hŷn a phlant gydweithio i greu celf gan ddefnyddio deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu a chanolbwyntio ar ddiwastraff. Dyddiadau i’w cadarnhau.
  6. KIM Inspire – Gweithdy grŵp ar ynni adnewyddadwy lle caiff y rheiny sy’n cymryd rhan eu hannog i ddatblygu ffyrdd o gyflwyno’r pwnc gerbron disgyblion ysgolion cynradd. Bydd y sesiynau ar Chwefror yr 22ain a’r 29ain ynghyd â Mawrth y 7fed.

Bydd y cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn fodd i Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! barhau gyda’u nod o hyrwyddo sero net, cynaliadwyedd a’r ymdeimlad o gymuned ledled Wrecsam, gan gynnig cyfleoedd gwerth chweil er mwyn dysgu a darganfod ymarferol. O ganlyniad i dderbyn cyllid ar gyfer y gweithdai hyn, gallwn fwrw iddi i’w cynnig yn rhad ac am ddim.

Caiff y rheiny sy’n cymryd rhan eu hannog i alw heibio i’r sesiynau’n gwbl rhad ac am ddim.

Mae bellach modd ichi gadw lle ar gyfer yr holl ddigwyddiadau sydd wedi’u crybwyll, a byddwn yn annog pobl i fynd ati i gadw lle cyn gynted â phosibl.

I wybod mwy am y digwyddiadau sydd ar y gweill, oedran addas y rheiny sy’n cymryd rhan ar gyfer pob sesiwn neu i gymryd rhan, ewch i www.xplorescience.co.uk neu cysylltwch gyda: porjects@xplorescience.co.uk

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen – Ydych chi wedi bod i Gaffi Cyfle i gael rhywbeth iach i’w fwyta neu ddanteithion melys eto?

Rhannu
Erthygl flaenorol Windy weather Rhybudd tywydd
Erthygl nesaf Rebel Business School Dewch yn Rebel a chyflawni eich breuddwydion busnes!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English