Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newidiadau i’r amserlen T3 yn codi pryderon sylweddol i deithwyr i Riwabon ac Ysbyty Maelor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Newidiadau i’r amserlen T3 yn codi pryderon sylweddol i deithwyr i Riwabon ac Ysbyty Maelor
Pobl a lleArall

Newidiadau i’r amserlen T3 yn codi pryderon sylweddol i deithwyr i Riwabon ac Ysbyty Maelor

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 7, 2024 1:12 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Maelor
RHANNU

Mae cynghorydd arweiniol wedi mynegi pryderon am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i newid y gwasanaeth bws Traws Cymru T3, fydd yn arwain at ddileu bysiau sy’n mynd i orsaf drenau Rhiwabon ac Ysbyty Maelor.

Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a’r aelod sy’n gyfrifol am Gludiant Strategol wedi ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Datblygu dros Ganolbarth, Gogledd a Chefn Gwlad Cymru i fynegi ei bryderon am yr effaith andwyol ar deithwyr yn ardal Wrecsam.

Mae’n tynnu sylw’n benodol at y diffyg ymgynghori â defnyddwyr y gwasanaeth a’r Cyngor, ond maent eisoes wedi cyhoeddi’r newid yn y gwasanaeth.

Yn ei lythyr, fe ddywedodd, “Rwyf yn arbennig o bryderus nad yw Llywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru wedi ymgynghori nac ymgysylltu ymlaen llaw i ofyn am sylwadau neu adborth gan gymunedau lleol na Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cyn cyhoeddi’r newid i’r ddarpariaeth gwasanaeth bws.

“Ni allaf ddeall y rhesymeg o ddileu’r gwasanaeth bws Traws Cymru o orsaf reilffordd Rhiwabon ac Ysbyty Maelor, pan fo’r dyheadau ar gyfer datblygiad parhaus y rhwydwaith yn y dyfodol yn seiliedig ar ddarparu cyfleoedd teithio ehangach o gwmpas canolfannau cludiant allweddol ac ardaloedd o bwys sylweddol. 

Mae Ysbyty Maelor yn darparu cyfleoedd gwaith sylweddol

“Byddwch yn cytuno bod Ysbyty Maelor yn darparu cyfleoedd gwaith a darpariaeth gofal iechyd sylweddol ac mae preswylwyr a staff y tu hwnt i Fwrdeistref Sirol Wrecsam yn defnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd y lleoliad allweddol hwn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell ei fod, ers ysgrifennu’r llythyr, wedi cael ymateb gan Drafnidiaeth Cymru sydd wedi dweud eu bod yn edrych ar y pwyntiau a’r pryderon a godwyd.

Maelor
Ruabon

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Mynediad i Ddefnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth

Rhannu
Erthygl flaenorol Flooding Dweud eich dweud ar y ffordd rydym yn rheoli llifogydd
Erthygl nesaf The Guildhall, Wrexham Cymeradwywyd newidiadau arfaethedig i brisiau prydau ysgolion uwchradd a sesiynau chwarae ysgolion cynradd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English