Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Coed i’w plannu yng nghanol y ddinas yn rhan o waith gwella
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Coed i’w plannu yng nghanol y ddinas yn rhan o waith gwella
Y cyngorArallDatgarboneiddio Wrecsam

Coed i’w plannu yng nghanol y ddinas yn rhan o waith gwella

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 20, 2024 11:21 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Trees
RHANNU

Yn rhan o’r gwaith o ailddatblygu canol y ddinas, rydym ni’n mynd i blannu 16 o goed mawr ar Allt y Dref, Stryt Yorke a’r Stryd Fawr.

I ddarparu ar gyfer y rhain yn y palmentydd newydd arfaethedig yn yr ardaloedd hyn, bydd yn rhaid i ni dynnu’r coed presennol ar Stryt Yorke ac Allt y Dref. Bydd cyfanswm o 7 coeden yn cael eu symud.

Mae’r saith coeden yn ifanc ac yn gymysgedd o rywogaethau wedi’u plannu yn rhan o gynllun anffurfiol, ad hoc. Gwneir pob ymdrech i drawsblannu gwreiddiau’r coed hyn i leoliadau eraill sy’n fwy addas. Bydd y coed newydd yn rhywogaethau mwy addas ac yn cael eu plannu i sicrhau bod canol y dref yn edrych yn fwy ffurfiol ac unffurf; sy’n fwy cydnaws â’r gwelliannau dymunol i’r Stryd Fawr a Stryt Yorke.

Bydd y coed yn cael eu plannu mewn tyllau plannu strwythuredig sy’n cynnal pwysau a fydd yn sicrhau amgylchedd gwreiddio gwell ac sy’n arwain at ddatblygiad gwreiddiau iach heb unrhyw berygl o aflonyddu’r tir yn y dyfodol. Bydd y coed newydd rhwng 5 a 7 metr o uchder pan fyddan nhw’n cael eu plannu.

O ganlyniad i’r tymor nythu byddwn ni’n symud y coed i gyd cyn 1 Mawrth felly efallai y bydd bwlch rhwng hyn a phryd y bydd y gwaith ar y palmentydd yn dechrau.  

Bydd chwe Derwen sy’n tyfu’n unionsyth yn cael eu plannu ar Stryt Yorke a bydd y coed sy’n cael eu plannu ar y Stryd Fawr ac Allt y Dref yn cynnwys y Gerddinen Wen, Oestrwydden, Llwyfen, Coeden Ginco, Mêl-ddraenen a’r Dderwen Fytholwyrdd.

Dywedodd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Nid yw symud coed yn rhywbeth yr ydym ni’n ei wneud ar chwarae bach ond nid yw’r coed presennol yn ffynnu. Mae’r palmant newydd arfaethedig yn gyfle delfrydol i osod coed newydd yn eu lle sydd wedi’u plannu mewn ffordd sy’n addas i’w hamgylchedd er mwyn caniatáu iddyn nhw ffynnu mewn amgylchedd trefol.”

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dweud eich dweud ar ein gwasanaethau ar-lein

Rhannu
Erthygl flaenorol Bod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth Bod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth
Erthygl nesaf Ysgol Clywedog Fyny Fry i Dri o Ddisgyblion Ysgol Clywedog!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English