Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Fyny Fry i Dri o Ddisgyblion Ysgol Clywedog!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Fyny Fry i Dri o Ddisgyblion Ysgol Clywedog!
Y cyngorBusnes ac addysg

Fyny Fry i Dri o Ddisgyblion Ysgol Clywedog!

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 20, 2024 12:02 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Ysgol Clywedog
RHANNU

Bydd tri o ddisgyblion Ysgol Clywedog, Emanuela Merftova, Tai Hyland a Ruben Soares yn mynd draw i Denbigh Gliding ym Maes Awyr Parc Lleweni yn fuan.

Fe wnaeth y tri ennill yr ysgoloriaethau ar ôl taith Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i’r maes awyr ar wahoddiad Cymdeithas Gleidio Prydain, a dalodd am fws i fynd â 30 o ddisgyblion i’r digwyddiad.

Ar ôl y digwyddiad, cafodd rhai disgyblion eu gwahodd i ymgeisio am ysgoloriaeth ar sail eu diddordeb a’u cyfraniad yn ystod y sesiynau. Ystyriwyd y ceisiadau gan dîm Cymdeithas Gleidio Prydain ac roedd tri o ddisgyblion Ysgol Clywedog yn llwyddiannus.

Mae pob ysgoloriaeth werth £500 ac mae posib’ ei defnyddio ar gyfer hedfan a gweithgareddau eraill sy’n ymwneud yn uniongyrchol â dysgu bod yn beilot gleider. Bydd y disgyblion yn gorffen yr ysgoloriaeth drwy hedfan gleider ar eu pen eu hunain!

Mae Emanuela eisiau bod yn beilot awyrennau masnachol.  Mae hi’n brysur yn astudio ar hyn o bryd er mwyn gwireddu ei breuddwyd ac mae hi hefyd yn Gadét Awyr.

Mae Ruben hefyd yn Gadét Awyr a byddai wrth ei fodd yn ymuno â’r Awyrlu.  Mae’n wybodus iawn am awyrennau ac mae’n astudio at hyfforddiant ac arholiadau peilot yn barod, sy’n helpu gyda hyfforddiant hedfan.

Mai gan Tai ddiddordeb mewn peirianneg ac fe wnaeth wir fwynhau’r daith i Faes Awyr Dinbych fel profiad o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae ennill yr ysgoloriaeth hon wedi ei helpu i weld gwahanol agweddau ar yrfaoedd peirianneg a, gobeithio, wedi meithrin diddordeb oes mewn hedfan ynddo.

Dywedodd Melissa Flanagan, Pennaeth Gwyddoniaeth yn Ysgol Clywedog, “Mae’r tri wedi cyffroi ar ôl ennill yr ysgoloriaethau ac maen nhw ar eu ffordd i gyflawni eu huchelgeisiau. Rydw i’n dymuno’n dda iddyn nhw ac yn edrych ymlaen at glywed yr hanes.”

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

Rhannu
Erthygl flaenorol Trees Coed i’w plannu yng nghanol y ddinas yn rhan o waith gwella
Erthygl nesaf bleidleisio’n Gwneud pleidleisio’n hygyrch i bawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English