Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad Lansio Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 gyda Sian Hughes
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Digwyddiad Lansio Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 gyda Sian Hughes
Y cyngorPobl a lle

Digwyddiad Lansio Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 gyda Sian Hughes

Diweddarwyd diwethaf: 2024/03/07 at 4:46 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Carnival of Words
RHANNU

Bydd Sian Hughes, awdur y nofel Pearl a gyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Booker, yn cymryd rhan mewn digwyddiad lansio arbennig ar gyfer Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024.

Mae’r nofel wedi’i lleoli dros y ffin yn Tilston yn Swydd Gaer a disgrifiwyd y nofel gan feirniaid Booker fel “nofel gyntaf arbennig, sy’n stori ddirgel ac yn fyfyrdod ar alar, gadael a chysur”. Mae’n adrodd hanes Marianne, merch 8 oed, pan mae ei mam yn mynd ar goll. Ar ôl cael ei gadael ar ôl gyda’i brawd bach a thad sy’n galaru, mewn hen dŷ ar gyrion pentref bach, mae’n gwneud ei gorau i ddal ei gafael yn yr atgofion tameidiog o gariad ei mam. 

Wrth i Marianne dyfu i fyny, mae’n cael trafferth addasu nes iddi gael cysur o ddarllen hen gerdd, Pearl, ond a fydd y gerdd hon o gymorth i’w gwella ac a fydd ei dyfodol hithau fel mam yn ei galluogi hi i ddod o hyd i heddwch? Bydd Sian Hughes yn siarad am ei nofel gyda phodlediwr Bookylicious, Paul Jeorrett yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Mercher, 27 Mawrth am 7.00pm.

Bydd y digwyddiad lansio hefyd yn cynnwys cyhoeddi enillydd y gystadleuaeth Dirgelwch Llofruddiaeth 2024.  Bydd y sgript fuddugol yn cael ei pherfformio yn ystod yr wythnos.

Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud gan Faer Wrecsam ar y cyd â’r nofelydd trosedd Prydeinig hynod lwyddiannus, Simon McCleave. Bu i’w lyfr cyntaf, ‘The Snowdonia Killings’ gyrraedd rhif 1 yn Siart Amazon y DU ac mae ei nofelau dilynol yng Nghyfres Nofelau Trosedd Cyffrous DI Ruth Hunter wedi bod ymysg y gwerthwyr gorau ar Amazon ac mae llawer wedi cyrraedd brig Siart Digidol y DU.

Mae wedi gwerthu dros 2 filiwn o lyfrau ers 2020. Yr unfed nofel ar bymtheg yn y gyfres yw The Wrexham Killings. Mae llyfrau o gyfres Ruth Hunter wrthi’n cael eu datblygu i gyfres deledu.

Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ŵyl lenyddiaeth flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 20-27 Ebrill 2024. Mae’r rhaglen lawn bellach wedi cael ei chyhoeddi ar www.wrexhamcarnivalofwords.com ac mae Joanne Harris, Catherine Isaac, Simon McCleave a Katy Watson, Suzan Holder, Mike Parker, Elen Caldecott a Vaseem Khan ymysg yr awduron sy’n cymryd rhan. Gallwch archebu tocynnau ar gyfer bob digwyddiad ar-lein neu eu cael o Lyfrgell Wrecsam.

Mae’r Tocyn Gŵyl arbennig ar gael am bris gostyngedig tan ddiwedd mis Mawrth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Football Heritage Teithiau Treftadaeth Pêl-droed Wrecsam – Archebwch nawr!
Erthygl nesaf Open Mic Night Noson Meic Agored Tŷ Pawb

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English