Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy na 70 o fusnesau yn nigwyddiad brecwast diweddaraf Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mwy na 70 o fusnesau yn nigwyddiad brecwast diweddaraf Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy
Busnes ac addysg

Mwy na 70 o fusnesau yn nigwyddiad brecwast diweddaraf Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 5, 2024 4:42 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
MDA business brekfast
RHANNU

Yn ddiweddar, cynhaliodd JCB Frecwast Busnes Rhwydwaith Arloesi Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy (MDA), gyda chefnogaeth tîm busnes a buddsoddi Cyngor Wrecsam.

Nod y digwyddiadau brecwast yma yw dod â chwmnïau sy’n seiliedig ar wybodaeth ynghyd â phobl fyddai’n cefnogi eu twf.

Mae’r MDA yn trefnu’r digwyddiadau yma bob dau fis a’r lleoliad yn amrywio bob yn ail rhwng Cymru a Lloegr, a’r mis yma, daeth dros 70 o gwmnïau iddo.

Drwy gydol y bore, clywodd y grŵp gyflwyniadau difyr gan nifer o fusnesau – rhai bach a chanolig yn bennaf. Roedd gan bob busnes hefyd stondin i arddangos eu gwaith a rhwydweithio.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad Cyngor Wrecsam: “Roedd yn fore braf, llawn gwybodaeth yng nghwmni busnesau lleol a rhai o bob cwr o ranbarth yr MDA dros Sir y Fflint, Cilgwri a Swydd Gaer.

“Mae hon yn ffordd wych i gwmnïau gyfarfod, rhwydweithio a meithrin perthnasoedd hirdymor sy’n fuddiol iddynt.

“Hoffwn ddiolch i dîm busnes a buddsoddi Cyngor Wrecsam am drefnu, yr holl siaradwyr, y stondinau busnes a’r gwesteion…a diolch yn arbennig i Craig Weeks a’i dîm o JCB yn Wrecsam am gynnal y digwyddiad a darparu lluniaeth.”

Mwy na 70 o fusnesau yn nigwyddiad brecwast diweddaraf Cynghrair Merswy a'r Ddyfrdwy

Dywedodd Craig Weeks, cyfarwyddwr gweithrediadau yn JCB Transmissions: “Fel cwmni gweithgynhyrchu sydd ar flaen y gad yn fyd-eang ac sy’n rhoi pwyslais mawr ar arloesedd a chydweithio, roedden ni’n falch iawn o gynnal brecwast busnes yr MDA.

“Roedd y digwyddiad yma’n gyfle unigryw i arweinwyr diwydiant a busnesau bach a chanolig ddod ynghyd, rhannu safbwyntiau ac edrych ar lwybrau i dyfu a ffurfio partneriaethau. Yn JCB Transmissions, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd creu cysylltiadau ystyrlon yn y gymuned fusnes, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at hwyluso trafodaethau difyr sy’n hwb i ddatblygiad ac arloesedd.

“Rydyn ni’n angerddol am gefnogi’r gymuned leol, addysg, elusennau a busnes i adael gwaddol o dwf a datblygiad ar gyfer pobl leol. Yn JCB Transmissions, rydyn ni’n canolbwyntio ar feithrin diwylliant i greu rhagoriaeth.”

Dylai unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn digwyddiadau brecwast yn y dyfodol gysylltu â’r MDA am fanylion.

Mwy na 70 o fusnesau yn nigwyddiad brecwast diweddaraf Cynghrair Merswy a'r Ddyfrdwy
Rhannu
Erthygl flaenorol Peidiwch â methu’r cyfle i gael dweud eich dweud am ein gwasanaethau ar-lein Peidiwch â methu’r cyfle i gael dweud eich dweud am ein gwasanaethau ar-lein
Erthygl nesaf cyfraniad caredig o ‘dedis trawma’ cyfraniad caredig o ‘dedis trawma’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English