Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn Atgoffa: Gall POB plentyn yn yr ysgol gynradd gael prydau ysgol am ddim
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Nodyn Atgoffa: Gall POB plentyn yn yr ysgol gynradd gael prydau ysgol am ddim
Busnes ac addysg

Nodyn Atgoffa: Gall POB plentyn yn yr ysgol gynradd gael prydau ysgol am ddim

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 14, 2026 10:17 am
Rhannu
Darllen 4 funud
financial hep
RHANNU

Dyma eich atgoffa, os oes gennych blentyn mewn ysgol gynradd yn Wrecsam (derbynfa i flwyddyn 6), mae gan eich plentyn hawl i bryd ysgol am ddim – waeth beth fo’ch sefyllfa ariannol.

Mae hyn diolch i raglen Prydau Ysgol Gynradd Cyffredinol Am Ddim Llywodraeth Cymru, sydd ar waith ers 2022 ac sy’n rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r pwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd, mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd yn yr ysgol.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael pryd ysgol poeth maethlon i’ch plentyn – am ddim!

A ydych chi hefyd yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol?

Os ydy’ch aelwyd yn ennill incwm isel, gallai hefyd fod hawl gennych i gael help ychwanegol drwy’r Grant Hanfodion Ysgol sy’n cynnwys cymorth i gael gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio p’un a ydych yn gymwys fel bod eich plentyn yn hawlio popeth sydd ar gael.  Gallwch ddysgu mwy ar y Dudalen Grant Hanfodion Ysgol ar ein gwefan.

Beth os ydy’ch plentyn yn yr ysgol uwchradd?

Os yw’ch cartref ar incwm isel ac mae gennych blant yn yr ysgol uwchradd, efallai y bydd gennych hawl i brydau ysgol am ddim hefyd. Gallwch wneud cais ar y Dudalen Prydau Ysgol Am Ddim ar ein gwefan i wirio a ydych chi’n gymwys.

A ydy eich sefyllfa ariannol wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?

Os nad ydy’ch plentyn ar hyn o bryd yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim neu’r Grant Hanfodion Ysgol ar hyn o bryd, ond mae eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y bydd gan Wrecsam gymorth ar gael i chi. Nid oes rhaid i gymorth ddechrau gyda’r flwyddyn academaidd, felly gwnewch gais am Prydau ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol i weld a allwch chi eu hawlio.

Dwedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Er y bydd pob plentyn ysgol gynradd yn derbyn pryd o fwyd am ddim yn yr ysgol, mae mwy o gymorth ar gael i deuluoedd incwm isel – gan gynnwys y rhai sydd â phlant yn yr ysgol uwchradd.  Ewch i’n gwefan a gwneud cais, hyd yn oed os ydy’ch plentyn yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim Cynradd Cyffredinol, oherwydd os ydy’ch cais yn llwyddiannus, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol, sy’n gam pwysig tuag at ddileu rhwystrau i addysg plant.”

Plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd? Bydd angen cyfrif Parent Pay arnoch

Er mwyn i’ch plentyn dderbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, bydd angen cyfrif arnoch ar wefan Parent Pay www.parentpay.com.  Dyma i agor cyfrif:

  1. E-bostwch schoolmeals@wrexham.gov.uk gydag enw llawn eich plentyn, dyddiad geni ac enw ei ysgol, a gofyn am god actifadu Parent Pay
  2. Byddwch yn derbyn cod actifadu i roi eich cyfrif ar waith

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymorth ariannol sydd ar gael i’ch plentyn tra byddant yn yr ysgol, gallwch gysylltu â ni yn freeschoolmeals@wrexham.gov.uk. 

Bydd angen i chi archebu prydau ysgol ymlaen llaw ar Parent Pay hefyd. Mae hyn yn helpu ysgol eich plentyn oherwydd mae’n golygu nad oes rhaid i athrawon golli amser addysgu gwerthfawr yn cymryd archebion prydau.  Mae hefyd yn golygu bod eich plentyn yn cael ei ddewis cyntaf o bryd bwyd ac yn ein helpu i leihau gwastraff.  Ar ôl i chi sefydlu ar Parent Pay, byddwch yn gallu archebu prydau bwyd eich plant hyd at bythefnos ymlaen llaw.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gyrfa newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf... Gyrfa newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English