Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CYHOEDDI EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM – manylion terfynol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > CYHOEDDI EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM – manylion terfynol
Pobl a lle

CYHOEDDI EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM – manylion terfynol

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 24, 2024 1:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
CYHOEDDI EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM - manylion terfynol
National Eisteddfod Proclamation Ceremony at Llwyn Isaf, Wrexham. The parade through town
RHANNU

Erthygl gwadd – Eisteddfod

Bydd dinas Wrecsam yn fwrlwm o liw dros y penwythnos wrth i Orsedd Cymru gynnal Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.  Cynhelir y Brifwyl yn yr ardal o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf.

Mae dros 300 o grwpiau ac unigolion eisoes wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r orymdaith gymunedol a dinesig for Sadwrn yma 27 Ebrill.  Bydd yr orymdaith yn ymgynnull yng Nghampws Iâl, Coleg Cambria, cyn cychwyn yr orymdaith am 10:00 a cherdded drwy’r ddinas gan ddychwelyd i Lwyn Isaf, y tu allan i Neuadd y Ddinas ar gyfer y seremoni sy’n cychwyn am 10:45. 

Mae’r seremoni’n gyfle i drigolion ac ymwelwyr weld un o seremonïau lliwgar yr Orsedd, ac yn ystod y seremoni hon, bydd yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd yn trosglwyddo’r awenau i Mererid, a fydd yn arwain a llywio gwaith yr Orsedd dros y blynyddoedd nesaf.

Yn unol â thraddodiad, bydd yr orymdaith yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd Cymru, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod. 

Yn hanesyddol, mae’n rhaid cyhoeddi bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.  Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu’r flwyddyn nesaf. 

Yn ystod y seremoni, bydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd.  Unwaith y mae’r copi wedi’i rannu, mae’r wybodaeth yn gyhoeddus a’r gyfrol yn mynd ar werth mewn siopau ar hyd a lled Cymru.

Yn ogystal â’r Cyhoeddi, cynhelir Cymanfa Ganu yng Nghapel Bethlehem, Rhosllanerchrugog, nos Sul 28 Ebrill am 18:00, ac mae croeso cynnes i bawb ymuno yn y noson honno hefyd.  Rhaglenni ar gael wrth y drws, gyda chasgliad at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wrth gyrraedd.  Bydd y Gymanfa’n cael ei recordio ar gyfer rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, “Bwriad y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd i ddod ymhen blwyddyn a rhoi blas i bobl leol o seremonïau lliwgar yr Orsedd.  Wrth gwrs, mae cyhoeddi’r Rhestr Testunau’n rhan fawr o’n gwaith ni’n lleol, ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod wrthi’n dewis a dethol cystadlaethau a thestunau dros y misoedd diwethaf.  Bydd y Rhestr ar werth ar y dydd, ac yna mewn siopau ar hyd a lled Cymru, gyda’r porth cystadlu’n agor ym mis Ionawr 2025.

“Rydyn ni wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn creu pwyllgorau ar draws yr ardal dros yr wythnosau diwethaf, ac mae gweithgareddau cymunedol yn dechrau cael eu cynnal yn rheolaidd i gefnogi’r gwaith o gyrraedd targed y Gronfa Leol.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at bob math o gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg a dwyieithog dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer yr ŵyl.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf.  Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn dechrau heddiw (24/04/24) Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn dechrau heddiw (24/04/24)
Erthygl nesaf Compliance Notices Myfyrwyr gwrywaidd Wrecsam yn cymryd safiad i sicrhau bod menywod yn medru mwynhau noson allan ddiogel 

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English