Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol
Y cyngorPobl a lle

Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol

Diweddarwyd diwethaf: 2024/04/24 at 3:26 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol
RHANNU

Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol, sy’n tynnu sylw at rôl bwysig plant milwyr yng nghymuned y Lluoedd Arfog.

Mae’n gyfle i gefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog a’u plant oherwydd yr aberth maen nhw’n ei wneud bob dydd a’r heriau maen nhw’n eu goresgyn.

Rydym wedi derbyn cyllid i oleuo Neuadd y Dref yn biws fel rhan o ymgyrch Mis y Plentyn Milwrol ar ddydd Gwener, 26 Ebrill.

Dewiswyd y lliw piws am ei fod yn symboleiddio pob cangen o’r fyddin; mae’n gyfuniad o Wyrdd y Fyddin, Glas y Llu Awyr, Glas Gwylwyr y Glannau, Coch y Môr-filwyr a Glas y Llynges. 

Meddai’r Cyng. Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog:  “Mae bywyd plentyn milwrol yn cynnwys llawer o symud o gwmpas, dechrau ysgolion newydd a gwneud ffrindiau newydd. “Trwy gael Mis y Plentyn Milwrol dynodedig, a digwyddiadau fel goleuo Neuadd y Dref, gallwn ddysgu am yr holl aberthau sy’n rhaid i’n teuluoedd milwrol eu gwneud.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gefnogi plant milwrol yng Nghymru i’w gael ar y wefan: Gwefan SSCE Cymru: Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Yng Nghymru

Tra’ch bod yma:

Ar 6 Mehefin 2024 byddwn yn cofio 80 o flynyddoedd ers Glaniadau D Day, ac mae Cyfeillion Parc Belle Vue, mewn partneriaeth â CBSW, yn nodi’r achlysur pwysig yma drwy gynnal gwasanaeth cofio yn Eglwys San Silyn, gorymdaith drwy ganol y ddinas a gwasanaeth gosod torchau ger cofeb Cymdeithas Cyn-filwyr Normandi ym Modhyfryd.

Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 12:30, gyda gorymdaith o’r eglwys i Fodhyfryd am 13:15. Hoffem gynnwys plant teuluoedd y lluoedd arfog a fydd yn bresennol yn y gwasanaeth.

Bydd cymdeithasau milwrol Wrecsam yn gorymdeithio gyda’u baneri i gofio am y rheiny a ymladdodd ar draethau Normandi.

Rydym ni’n chwilio am blant o deuluoedd y Lluoedd Arfog i gymryd rhan a dal un o’r deunaw baner. Y bwriad yw creu bwa gyda’r baneri a bod pawb yn mynd o dano wrth iddynt adael yr eglwys ar yr orymdaith.

Meddai’r Cyng.Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae Wrecsam wastad wedi bod â chysylltiadau cryf â’r fyddin, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cofio aberth milwyr y gorffennol a chydnabod aberth personél a theuluoedd y lluoedd arfog heddiw.”

Os hoffech chi gymryd rhan neu fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at AFCC@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Compliance Notices Myfyrwyr gwrywaidd Wrecsam yn cymryd safiad i sicrhau bod menywod yn medru mwynhau noson allan ddiogel 
Erthygl nesaf 20 mph Datganiad ynglŷn â’r terfyn cyflymder 20 mya

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall Mawrth 6, 2026
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Mawrth 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle

Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus

Mawrth 6, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
FideoPobl a lle

Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol

Mawrth 6, 2026
Be Mighty Recycle Top Banana
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!

Mawrth 6, 2026
Parking sign
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Mawrth 5, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English