Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r chwe Thîm Cyfandirol UCI Prydeinig wedi eu cadarnhau ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae’r chwe Thîm Cyfandirol UCI Prydeinig wedi eu cadarnhau ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024
Busnes ac addysg

Mae’r chwe Thîm Cyfandirol UCI Prydeinig wedi eu cadarnhau ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2024/05/21 at 2:28 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Tour of Britain
Picture by Craig Zadoroznyj/SWpix.com - 12/05/2024 - Cycling - British Cycling Women’s National Road Series 2024 - Rapha Women’s Lincoln Grand Prix - Kate Richardson of Lifeplus Wahoo climbs Michaelgate
RHANNU

Mae’r chwe thîm Cyfandirol UCI merched Prydain wedi eu cyhoeddi fel y timau cyntaf a gadarnhawyd ar gyfer Taith Prydain i Ferched agoriadol.

Cynnwys
Timau Prydeinig ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024:Llwybr ras y merched Taith Prydain 2024:

Fe’i cynhelir o ddydd Iau 6 Mehefin i ddydd Sul 9 Mehefin, bydd Taith Prydain i Ferched yn cynnwys pedwar cymal heriol a cyffrous, gan ddechrau yn y Trallwng, Cymru ac yn gorffen yn Leigh, Manceinion Fwyaf ble fydd yr enillydd yn cael ei goroni.

Mae Tîm Alba Development Road; DAS-Hutchinson-Brother UK; Doltcini-O’Shea; Hess Cycling Team; Lifeplus-Wahoo and Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting yn cwblhau’r rhestr o Dimau Cyfandirol UCI Prydeinig a fydd yn cystadlu yn y ras ryngwladol hon ym Mehefin.

Yn dychwelyd i Daith Prydain i Ferched fydd Lifeplus-Wahoo, Doltcini-O’Shea a DAS-Handsling. Maent i gyd wedi bod yn gystadleuol yn y Daith i Ferched, gyda’r beiciwr Prydeinig Alice Barnes yn gorffen yn chweched ar gyfer Lifeplus Wahoo, a adnabyddwyd yn flaenorol fel Drops, yn y GC o rifyn 2017.

Bu i Beckie Storrie o DAS-Hutchinson-Brother orffen ar y podiwm fel y Beiciwr Prydeinig Gorau yn Nhaith y Merched 2022 cyn symud i Daith y Byd Team dsm firmenich PostNL.

Yn dimau elît yn 2023, mae Tîm Alba Road Development a Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting wedi camu i fyny i statws Cyfandirol UCI ar gyfer y tymor hwn. Mae Tîm Hess Cycling wedi newid i drwydded Cyfandirol UCI Prydeinig, gan gynyddu nifer y timau Cyfandirol Prydeinig talentog ymhellach ar gylchred ddomestig 2024.

Hyd yma mae Lifeplus Wahoo wedi bod yn serenu yn ystod Cyfres Ffordd Genedlaethol – y brif gyfres rasio yn y DU i ddynion a merched – gan ennill yn y CiCLE Classic a’r Rapha Lincoln Grand Prix. Mae Tîm Alba Development Road wedi gorffen yn ail yn y CiCLE Classic a Classic Dwyrain Cleveland i Ferched, gyda Hess yn cwblhau’r podiwm yn drydydd yn Nwyrain Cleveland.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr British Cycling Events, Jonathan Day:

“Rydym yn falch o allu cyhoeddi mai’r chwe thîm Cyfandirol UCI Prydeinig yw’r rhai cyntaf i’w cadarnhau ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024. 

“Mae’n wych bod gan y timau Cyfandirol UCI Prydeinig y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad mor fawreddog yn lleol, o ystyried eu hymrwymiad i’r tymor rasio domestig. Rydym wedi gweld pa mor gyffrous yw gwylio’r timau hyn ac rydym yn gwybod y gall y cefnogwyr ddisgwyl profiad gwych fis nesaf.”

Mae’r pedwar cymal ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024 bellach wedi eu cyhoeddi ac maent ar gael ar wefan British Cycling.

Bydd cyhoeddiadau pellach am dimau Taith Prydain i Ferched 2024 yn fuan.

Timau Prydeinig ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024:

  • Tîm Alba Development Road
  • DAS-Hutchinson-Brother UK
  • Doltcini-O’Shea
  • Tîm Beicio Hess
  • Lifeplus-Wahoo
  • Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting

Llwybr ras y merched Taith Prydain 2024:

  • Cymal 1 – Dydd Iau 6 Mehefin 2024: Y Trallwng i Landudno
  • Cymal 2 – Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam
  • Cymal 3 – Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington
  • Cymal 4 – Dydd Sadwrn 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf: Canolfan Feicio Genedlaethol i Leigh

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council children's social services team Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno recriwtio mwy o dalent yn dilyn arolwg ‘gorau erioed’ o Ofal Cymdeithasol Plant
Erthygl nesaf Tourettes Action yn ceisio gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr Tourettes Action yn ceisio gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 10, 2026
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 6, 2026
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Chwefror 5, 2026
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau Chwefror 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Advanced manufacturing
Busnes ac addysg

Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam

Chwefror 2, 2026
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Ionawr 30, 2026
COVID-19 and your business: how to get found online
Busnes ac addysgDigwyddiadau

Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG

Ionawr 27, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English