Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno recriwtio mwy o dalent yn dilyn arolwg ‘gorau erioed’ o Ofal Cymdeithasol Plant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno recriwtio mwy o dalent yn dilyn arolwg ‘gorau erioed’ o Ofal Cymdeithasol Plant
Y cyngor

Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno recriwtio mwy o dalent yn dilyn arolwg ‘gorau erioed’ o Ofal Cymdeithasol Plant

Diweddarwyd diwethaf: Mai 21, 2024 1:02 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Council children's social services team
RHANNU

Yr hydref diwethaf bu i Arolygiaeth Gofal Cymru gynnal arolwg wythnos o hyd o Ofal Cymdeithasol yn Wrecsam a nodwyd nifer o gryfderau allweddol, gan gynnwys arweinyddiaeth gref a diwylliant newydd o ddisgwyliadau a safonau uwch.

Nodwyd hefyd fod gweithwyr yn gadarnhaol ynglŷn â gweithio i’r Cyngor; mae morâl yn dda, mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac mae rheolwyr yn gefnogol ac yn hawdd mynd atynt.

Felly sut y bu i siwrnai wella Wrecsam ddechrau? Yn 2020, sefydlwyd Uwch Dîm Rheoli newydd, a bu iddynt, yng nghanol pandemig Covid, y cyfnod anoddaf mae’n debyg i Brydain yn y degawdau diweddar, ail-ddylunio darparu gwasanaethau i sicrhau fod plant yn cael eu diogelu ac roedd hyrwyddo eu lles yn ganolog i bob dim a wnaethant.

Mae mwy o wybodaeth am gyfleoedd gyrfa yng Nghyngor Wrecsam ar gael ar borth swyddi’r Cyngor.

Mae’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Plant, yn egluro: “Ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd pethau’n anodd iawn yng ngofal cymdeithasol plant ac roeddem yn gwybod fod rhaid i ni newid.

“Yn gyntaf, roeddem yn gwybod fod rhaid i ni wella’r ffordd roedd gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu, ac roedd sicrhau cefnogaeth wleidyddol ar gyfer cyllid ac adnoddau ychwanegol yn hanfodol.

“Yna dechreuodd y pandemig, ond mewn nifer o ffyrdd roedd yn gatalydd ar gyfer gwelliant – bu iddo ein gorfodi i ail-werthuso sut rydym yn gwneud pethau, y ffordd rydym yn defnyddio technoleg, ein prosesau, a sut rydym yn sicrhau fod lleisiau plant yn ganolog i bopeth a wnawn yng Ngofal Cymdeithasol Plant.

“Bu i ni wneud llawer o welliannau ac rydym yn parhau i’w datblygu ar ôl y pandemig, ac rwy’n credu bod gennym bellach un o’r adrannau gwasanaethau cymdeithasol mwyaf blaengar yng Nghymru. Mae’n debyg fod yr arolwg AGC y gorau rydym erioed wedi ei gael.”

Fel ym mhob sefydliad, mae gweithwyr wedi bod yn ganolog i gynnydd yng Nghyngor Wrecsam, ac mae sicrhau fod staff yn cael cefnogaeth wedi bod yn gonglfaen i lwyddiant. Mae Gofal Cymdeithasol Wrecsam wedi gweithredu Fframwaith Ymgysylltu â’r Gweithlu i wreiddio diwylliant ble mae’r gweithle yn gyrru datblygiad gwasanaeth.

Dywedodd Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol: “Mae’r tîm arweinyddiaeth wedi croesawu dull hyfforddi a dysgu sy’n galluogi’r gweithlu i ddatblygu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae Wrecsam yn ffodus iawn o gael gweithlu talentog ac ymroddedig iawn sydd wedi ymrwymo i rymuso plant a theuluoedd i gyflawni eu canlyniadau gorau.

“Dywedodd AGC fod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn teimlo’n hapus ac mae ganddynt fynediad at lawer o gefnogaeth gan reolwyr, ac rwy’n meddwl mai dyna’r prif reswm ein bod wedi gwneud cymaint o gynnydd.

“Pobl yw ein hased mwyaf gwerthfawr ac mae diwylliant cryf, gwydn iawn ar draws ein timau sy’n rhoi’r hyder i’n gweithwyr ac yn caniatáu iddynt arloesi a ffynnu.

“Yr haf hwn rydym yn gobeithio recriwtio hyd yn oed mwy o dalent i nifer o swyddi allweddol. Os ydych wedi ymrwymo i ymarfer o ansawdd a gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd a byddech yn hoff o ymuno a bod yn rhan o’r siwrnai barhaus o welliant, yna Gofal Cymdeithasol Plant Wrecsam yw’r lle i chi.

Mae mwy o wybodaeth am gyfleoedd gyrfa yng Nghyngor Wrecsam ar gael ar borth swyddi’r Cyngor.

Rhannu
Erthygl flaenorol Darganfod Archebwch eich tocynnau ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod 2024
Erthygl nesaf Tour of Britain Mae’r chwe Thîm Cyfandirol UCI Prydeinig wedi eu cadarnhau ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English