Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen DATGANIAD Y CYNGOR – ‘Another World Festival’ (1af – 5 Awst 2024)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > DATGANIAD Y CYNGOR – ‘Another World Festival’ (1af – 5 Awst 2024)
Y cyngorPobl a lle

DATGANIAD Y CYNGOR – ‘Another World Festival’ (1af – 5 Awst 2024)

Diweddarwyd diwethaf: 2024/07/04 at 3:25 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
DATGANIAD Y CYNGOR - 'Another World Festival' (1af - 5 Awst 2024)
RHANNU

Mae Another World Festival yn cael ei hysbysebu ar y rhyngrwyd fel gŵyl gerddoriaeth aml-ddiwrnod sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam o 1 tan 5 Awst 2024.

Mae’r tocynnau wedi bod ar werth ers mis Awst y llynedd ar lwyfan trydydd parti. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth fusnes am drefnydd y digwyddiad, sef WCE Ltd (cwmni Prydeinig a gofrestrwyd fis Mawrth 2023). O edrych ar y disgrifiad o’r digwyddiad ar y wefan, bydd angen trwydded gan Gyngor Wrecsam arno.

Nid yw’r digwyddiad wedi cael trwydded ac nid oes cais wedi dod i law hyd yma. Hefyd, byddai angen Grŵp Diogelwch Ymgynghorol Amlasiantaeth i adolygu pob agwedd ar ddiogelwch y digwyddiad.

Hyd yma, nid yw trefnwyr y digwyddiad wedi gwneud unrhyw ymgais i gysylltu â’r Grŵp Diogelwch Ymgynghorol i drafod a chytuno ar yr agweddau diogelwch.

Nid yw Cyngor Wrecsam yn gallu cyflwyno’r drwydded angenrheidiol heb gydweithrediad WCE Ltd. Heb drwydded, ni ellir cynnal y digwyddiad yn gyfreithlon.

Roedd Gŵyl Gerddoriaeth Another World oedd yn cael ei hyrwyddo at fis Awst eleni, cyn heddiw, yn cael ei hysbysebu gyda “3 huge stages”, “80+ artists” ac “over 40,000 guests”. 

Mae Swyddogion Cyngor Wrecsam wedi ceisio cyfarfod gyda threfnwyr y digwyddiad dros y misoedd diwethaf er mwyn darparu cyngor a chefnogaeth a thrafod unrhyw gamau rheoleiddiol oedd angen eu cymryd i gynnal y digwyddiad yn ddiogel. 

Mae trefnydd y digwyddiad wedi’i annog yn ysgrifenedig i gyflwyno cais am drwydded eiddo ar gyfer y digwyddiad mewn da bryd. 

Mae proses Rhybudd Digwyddiad Dros Dro’n un gyffredin ar gyfer digwyddiadau bach fel gŵyl bentref neu i gynnal derbyniad priodas mewn canolfan gymunedol, er enghraifft, ac uchafswm y niferoedd yw 499 o bobl, sydd i gynnwys pob un sy’n dod i’r ŵyl, staff yr ŵyl ac artistiaid yr ŵyl. 

Byddem yn annog trefnwyr unrhyw ddigwyddiad i gyflwyno cais am drwydded neu rybudd digwyddiad dros dro mewn da bryd gan fod angen ymgynghori yn rhan o’r ddwy broses, a phe bai unrhyw wrthwynebiadau’n dod i law, byddai’n arwain at wrandawiad gan bwyllgor trwyddedu’r Cyngor. 

Yn y gwrandawiad, bydd y pwyllgor trwyddedu un ai’n cymeradwyo’r cais am drwydded neu’r rhybudd, yn ychwanegu amodau ato neu’n ei wrthod. 

Mae posib’ apelio yn rhan o’r ddwy broses, i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad.  Mae’n drosedd gwneud datganiad anwir mewn cais. 

Er gofyn iddynt wneud hynny ar fwy nag un achlysur, nid yw WCE Ltd wedi cyfarfod â Swyddogion Cyngor Wrecsam na’r Grŵp Diogelwch Ymgynghorol ar unrhyw adeg i drafod cynnal y digwyddiad hwn.

Rhannu
Erthygl flaenorol Taith Prydain Lloyds Bank - Cymal Wrecsam - casgliad lluniau ac fidio Taith Prydain Lloyds Bank – Cymal Wrecsam – casgliad lluniau ac fidio
Erthygl nesaf Swifts Helpwch i Achub ein Gwenoliaid

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English