Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae prosiect Go Green 4 Nature o fudd i gymunedau ar draws Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Mae prosiect Go Green 4 Nature o fudd i gymunedau ar draws Wrecsam
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Mae prosiect Go Green 4 Nature o fudd i gymunedau ar draws Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 9, 2024 10:02 am
Rhannu
Darllen 8 funud
Go Green 4 Nature
RHANNU

Fe elwodd cymunedau ar draws Wrecsam yn sgil prosiect natur oedd yn canolbwyntio ar lythrennedd carbon a bioamrywiaeth. 

Cynnwys
  • Gwelliannau i fannau gwyrdd
  • Gweithio ag ysgolion
    • Ysgolion cynradd
    • Ysgolion uwchradd
  • Digwyddiadau cyhoeddus
  • “Gwaith ardderchog yn ymwneud â llythrennedd carbon”

Roedd prosiect Go Green 4 Nature yn bartneriaeth rhwng Cyngor Wrecsam, Groundwork Gogledd Cymru a Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!

Fe’i ariannwyd gan Grant Cymunedau Gwydn Cyfoeth Naturiol Cymru, a daeth â gwelliannau i nifer o fannau gwyrdd ar draws y sir.

Bu’r prosiect hefyd yn gweithio gydag ysgolion i addysgu disgyblion ynglŷn â llythrennedd carbon a bioamrywiaeth, ac fe ddarparodd sawl digwyddiad am ddim i’r cyhoedd.

Gwelliannau i fannau gwyrdd

Mae mannau gwyrdd megis yr ardd do yn Nhŷ Pawb, llethrau Lodge Valley ym Mrymbo, Parciau Gwledig Melin y Nant a Minera i gyd wedi elwa o welliannau yn ystod prosiect Go Green 4 Nature.

Roedd y gwelliannau yma’n cynnwys creu gwelyau plannu, gwella cynefinoedd drwy reoli coetir a glaswelltir, creu ardaloedd i flodau gwyllt a thasgau cynnal a chadw a thwtio cyffredinol. 

Daeth gwirfoddolwyr ynghyd o wahanol gefndiroedd i helpu, a dysgu sgiliau newydd gwerthfawr ac i gael profiadau newydd.

Dywedodd Richard Aram, Pennaeth Prosiectau a Chontractau yn Groundwork Gogledd Cymru: “Roedd yn wych gweithio gydag ysgolion a gwirfoddolwyr o’r gymuned leol er mwyn gwella bioamrywiaeth ar draws gwahanol safleoedd yn Wrecsam. Cafodd nifer o fannau gwyrdd eu gwella a chafodd gwirfoddolwyr gyfle i ddysgu amrywiaeth o sgiliau.”

Gweithio ag ysgolion

Ysgolion cynradd

Creodd dîm datblygu Xplore! weithgareddau addysgiadol rhyngweithiol, llawn gwybodaeth a pherthnasol ar gyfer prosiect Go Green 4 Nature. Roedd hi’n bwysig bod disgyblion yn gadael gyda chysylltiad cryfach i’r amgylchedd naturiol a’u hawdurdodi i chwarae rhan weithgar yn y modd y caiff ei reoli.

Creodd Xplore! sesiwn hanner diwrnod o hyd o’r enw WildWatch oedd ar gael i ysgolion cynradd yn Wrecsam fanteisio arno.  Mwynhaodd dros 600 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 y sesiwn rhwng mis Ionawr 2023 a mis Mawrth 2024, yn cynnwys 60 o blant sy’n cael eu haddysgu gartref.

Yn rhan o WildWatch, cyflwynwyd y testun bioamrywiaeth i blant; yn benodol beth mae’n ei olygu, beth yw ecosystemau a gweoedd bwyd, beth yw pwysigrwydd bioamrywiaeth a sut gellir ei fesur.  

Go Green 4 Nature project

Cawsant eu cyflwyno i’r syniad o Ddinesydd Gwyddoniaeth a sut y gall unrhyw un fesur a chasglu data sy’n cael eu hychwanegu at arolygon byd go iawn.  Cawsant chwyddwydrau ynghyd â chwadratau a mat llawr mawr yn dangos gwahanol rywogaethau o fflora, ffawna a phryfed a dangoswyd iddynt sut y gallant arsylwi a chyfrif rhywogaethau cyn mynd allan i’r byd go iawn a defnyddio’r theori. 

Go Green 4 Nature project

Fe aeth y plant i ganol y ddinas i ddilyn llwybr bioamrywiaeth o amgylch Wrecsam.  Cafodd plant eu hannog i adnabod planhigion ac anifeiliaid, tynnu llun ohonynt gyda’u llechen electronig a chofnodi’r casgliadau ar daflen arolwg.  Yna fe wnaethant alw heibio Llwyn Isaf lle cawsant ddefnyddio eu sgiliau arolygu.

Fe atgoffwyd y plant yr hyn yr oeddynt wedi’i ei ddysgu ac fe roddwyd yr her nesaf iddynt.  Y dasg iddynt oedd ail ddylunio’r cae i gynyddu bioamrywiaeth heb gyfaddawdu ar unrhyw beth oedd yno eisoes megis y bandstand, ac roedd angen iddynt ystyried sut y dylid edrych ar ôl eu dyluniad ar ôl iddo gael ei gwblhau.

Roedd Xplore! yn awyddus na fyddai’r dysgu yn gorffen ar ôl yr un sesiwn, felly fe wnaethant roi adnoddau i bob dosbarth fynd yn ôl gyda nhw er mwyn iddynt barhau i archwilio ar ôl mynd yn ôl i’r ysgol.

Meddai Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes Xplore!: “Gan fod cyllidebau ysgolion mor dynn ar hyn o bryd, rydym ni bob amser yn hapus pan fydd cyllid yn galluogi plant i fynd ar drip ysgol diddorol. Roedd y prosiect yn gyfle i ni ddatblygu gweithdy heb ei debyg, gan alluogi i ni fynd allan i ganol natur boed law neu hindda tra’n roi cyfle i’r plant gael dealltwriaeth well o gynefinoedd gwahanol fywyd gwyllt yn lleol.”

Meddai Claire Evans o Ysgol Pentre yr Eglwys yng Nghymru: “Fe fwynhaodd ein disgyblion y sesiwn WildWatch. Roeddem ni wrth ein bodd yn cyfrif anifeiliaid a phlanhigion. Roedd gen i ddiddordeb defnyddio ein hardal leol i ddarganfod bioamrywiaeth.”

Meddai Danielle Weigh o Ysgol Gynradd Gymuned Froncysyllte: “Roedd o’n ddiwrnod gwych yn llawn gweithgareddau hwyliog a heriol. Roedd y plant wrth eu boddau ac fe wnaethant fwynhau’r gweithgareddau dan do a’r rhai awyr agored a ddarparwyd.”

Meddai Alison King o Ysgol Gynradd Gwenfro: “Roedd o’n drip gwych oedd yn llawn gwybodaeth a hwyl. Roedd hi’n ffantastig cael y plant yn yr awyr agored.

Meddai Sarah Jones o Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Hollsaint:  “Fe fu’r plant yn cymryd rhan mewn gweithdy diddorol am fioamrywiaeth a fydd yn cynorthwyo eu dysgu yn ôl yn yr ysgol.”

Meddai Josie Edwards o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Peter, Yr Orsedd: “Roedd hi’n sesiwn bwysig iawn ac yn brofiad ymarferol gwych.”

Ysgolion uwchradd

Canolbwyntiodd y gwaith gydag ysgolion uwchradd ar addysgu disgyblion am lythrennedd carbon a bioamrywiaeth. 

Cymerodd plant o wahanol ysgolion ran mewn gweithdai llythrennedd carbon a sesiwn ymarferol i wella ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth ar dir eu hysgol.  Roedd hyn yn cynnwys plannu coed, rheoli glaswelltiroedd, hau blodau gwyllt, creu pwll a chreu gaeafleoedd.

Digwyddiadau cyhoeddus

Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus hefyd trwy gydol y prosiect, a’r cyfan ar thema carbon neu fioamrywiaeth. 

Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai sut i bladuro, teithiau cerdded paleontoleg, teithiau cerdded chwilota, sesiynau crefftau natur hydrefol, gweithdai crefft borderi pren a sesiynau creu torchau. 

Roedd y digwyddiadau yn rhai agored ac am ddim, ac fe wnaethant helpu pobl i wella eu sgiliau a chynyddu gwybodaeth am fioamrywiaeth a llythrennedd carbon.

“Gwaith ardderchog yn ymwneud â llythrennedd carbon”

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Fe wnaed gwaith ardderchog o ran llythrennedd carbon gyda phrosiect Go Green 4 Nature drwy’r addysg mewn ysgolion a thrwy nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim a ddarparwyd.  Mae prosiectau pwysig fel Go Green 4 Nature yn helpu i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng hinsawdd.”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Cafwyd gwelliannau mewn nifer o fannau gwyrdd yn Wrecsam yn sgil prosiect Go Green 4 Nature, gan gynyddu ein bioamrywiaeth, ac fe helpodd gyda dealltwriaeth am bwysigrwydd edrych ar ôl yr amgylchedd.  Rydym ni wrth ein bodd gyda’r hyn mae’r prosiect wedi llwyddo i’w gyflawni.”

Grymuso Cynaliadwyedd: Siwrnai Lleihau Carbon Ysgol Gynradd Yr Holl Saint – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:amgylcheddDatgarboneiddiodecarbonisationenvironment
Rhannu
Erthygl flaenorol angen Byddwch angen prawf adnabod â llun i bleidleisio yn yr etholiadau
Erthygl nesaf Ty Pawb Open Galwad Agored i artistiaid – Cyflwynwch eich gweithiau ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English