Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Darganfyddiadau Rhufeinig anhygoel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Darganfyddiadau Rhufeinig anhygoel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
ArallPobl a lle

Darganfyddiadau Rhufeinig anhygoel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mae archeolegwyr wedi darganfod anheddiad Rhufeinig a’r hyn a gredir ei fod yn dŷ hir Canoloesol cynnar hynod o brin yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Diweddarwyd diwethaf: 2024/08/15 at 4:23 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Roman
RHANNU

Erthygl Gwadd – Phrifysgol Caer

Datgelodd y tîm o Brifysgol Caer, Heneb: Ymddiriedolaeth Archeoleg Cymru (rhanbarth Clwyd-Powys) a’r Cynllun Hen Bethau, nodweddion strwythurol a deunyddiau pwysig o’r oes Rufeinig, ac o’r hyn a gredir i ddechrau, y Canol Oesoedd cynnar, wrth gloddio ar safle ger gwaith teils a chrochenwaith Rhufeinig Holt, yn Wrecsam.

Roedd y gloddfa archeolegol yn gynharach yr haf hwn, yn rhan o brosiect ehangach a ariannwyd gan Brifysgol Caer yn archwilio i Wrecsam Rufeinig, a ddechreuodd drwy ddarganfod gweddillion y fila Rufeinig gyntaf erioed yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Ymddengys bod y tîm, oedd yn cynnwys myfyrwyr o Brifysgol Caer a gwirfoddolwyr lleol, wedi darganfod strwythur tŷ hir o’r Canol Oesoedd cynnar – adeilad hir, cul ble byddai cymuned yn byw – a llwybr, strwythurau, deunyddiau adeiladu, serameg, yn cynnwys teilsen llengol wedi’i stampio a darn o dlws, sy’n datgelu bod anheddiad Rhufeinig ar y safle hwn hefyd.

Wrexham Holt

Arweiniwyd y prosiect gan Chris Matthews o Heneb, Dr Caroline Pudney o Brifysgol Caer a Steve Grenter, cyn archeolegydd y sir a Rheolwr y Gwasanaethau Treftadaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gyda chefnogaeth gan Dr Susie White, Swyddog Cyswllt Canfyddiadau ar gyfer y Cynllun Hen Bethau (PAS Cymru).

Mae rhaglen ddogfen fer ar y cloddio a’r darganfyddiadau i fod i gael ei rhyddhau yn hwyrach eleni.

Meddai Dr Pudney, Uwch Ddarlithydd Archeoleg ym Mhrifysgol Caer: “Roeddem yn obeithiol iawn y byddem yn darganfod tystiolaeth o fywyd Rhufeinig oherwydd darganfyddiadau blaenorol ac arolygon geoffisegol yn yr ardal, heb sôn am bresenoldeb y gwaith teils llengol ychydig o gaeau i ffwrdd. Ond nid oeddem yn disgwyl darganfod yr hyn a gredir ei fod yn dŷ hir o’r Canol Oesoedd cynnar. 

Darganfyddiadau Rhufeinig anhygoel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

“Mae darganfod anheddiad Rhufeinig yn bwysig iawn wrth adeiladu darlun mwy o Wrecsam Rufeinig ac er bod tai hir o’r Canol Oesoedd cynnar wedi cael eu darganfod mewn rhannau eraill o Gymru, mae’n beth hynod o brin dod o hyd i dystiolaeth o adeilad o’r fath yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.”

Ychwanegodd Mr Matthews, Archeolegydd y Prosiect a Geoffisegydd gyda Heneb: “Er nad ydym wedi dechrau ar yr ymchwiliadau ar ôl cloddio, pan fydd yr holl ddarganfyddiadau’n cael eu dadansoddi, mae’r samplau a broseswyd a’r dyddio gwyddonol a gafwyd yn ddarganfyddiad newydd cyffrous iawn yn y rhanbarth, a allai ein helpu i lenwi’r bylchau presennol yn ein dealltwriaeth am adeiladu a’r defnydd o dai hir o’r Canol Oesoedd.”

Mae’r gloddfa’n dilyn treialu gwaith cloddio ffosydd gan Gymdeithas Hanes Leol Holt rhwng 2013 a 2017, pan ddatgelwyd swm sylweddol o serameg Rhufeinig a gwrthrychau eraill.  Ar ôl archwilio’r arteffactau hyn, y mae rhai ohonynt yn Amgueddfa Wrecsam, cynhaliodd Heneb a Phrifysgol Caer arolygon geoffisegol, a ddatgelodd botensial archeolegol y safle ymhellach.

Er gwaetha’r amodau geoffisegol anffafriol, datgelodd yr arolygon, oedd yn cynnwys magnetomedreg cydraniad uchel, amlinelliad clir o anheddiad ar ffurf grid a system ffyrdd, yn ogystal â strwythurau petryal penodol y tu allan i ffiniau’r anheddiad.

Darganfyddiadau Rhufeinig anhygoel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am Hanes ac Archeoleg ym Mhrifysgol Caer.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Britain in Bloom Croeso i Wrecsam i Feirniaid Prydain yn ei Blodau
Erthygl nesaf Stryt Las Apêl i edrych ar ôl yr elyrch ym Mharc Stryt Las

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Hedgehog
Arall

Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?

Awst 19, 2025
Dog
Arall

Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English