Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Woody’s Lodge yn agor ei siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a’r gwasanaethau golau glas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Woody’s Lodge yn agor ei siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a’r gwasanaethau golau glas
Pobl a lle

Woody’s Lodge yn agor ei siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a’r gwasanaethau golau glas

Diweddarwyd diwethaf: Awst 23, 2024 11:26 am
Rhannu
Darllen 3 funud
The opening of the Woody's Lodge shop in Wrexham
RHANNU

Mae Woody’s Lodge, elusen arweiniol yng Nghymru sy’n cefnogi cyn-filwyr, a chyn bersonél y gwasanaethau brys, a’u teuluoedd, yn falch o gyhoeddi eu bod yn agor eu siop elusen gyntaf erioed yn Wrecsam.

Wedi’i lleoli ar Stryt Caer, yng nghanol adeilad cymunedol Tŷ Pawb, mae hyn yn nodi carreg filltir sylweddol ar gyfer Woody’s Lodge, sef y siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a gwasanaethau golau glas.

Ni fyddai’r fenter gyffrous hon yn bosibl heb gefnogaeth hael Cyngor Wrecsam, sydd wedi rhoi cyfle i Woody’s Lodge feddiannu un o’u heiddo yn y canolbwynt cymunedol ffyniannus hwn.

Mae eu partneriaeth wedi bod yn fodd o helpu’r elusen i sefydlu presenoldeb yn Wrecsam, lle bydd y siop yn gweithredu fel adnodd hollbwysig wrth hel pres a chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau hanfodol mae Woody’s Lodge yn eu darparu.

Woody's Lodge yn agor ei siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a’r gwasanaethau golau glas

Yn ychwanegol at gynnig ystod eang o ddillad ail law, ategolion, nwyddau cartref a mwy, bydd y siop yn cynnwys arddangosfa unigryw o eitemau cofiadwy milwrol, sydd ar fenthyg yn garedig gan gyn-filwyr a chymdeithasau lleol.

Bydd yr eitemau gwerthfawr hyn, nad ydynt ar werth, yn cynnig cysylltiad pwerus i ymwelwyr o hanes a phrofiadau’r sawl sydd wedi gwasanaethu. Mae’r arddangosfa’n tanategu cysylltiad dwfn y gymuned y mae Woody’s Lodge yn ei feithrin ac mae’n gweithredu i’n hatgoffa’n deimladwy o’r aberth a wnaeth aelodau o’n gwasanaethau.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Wrecsam am eu cefnogaeth, ac am ein helpu i wireddu ein breuddwyd o agor siop elusen,” meddai Graham Jones, Prif Weithredwr Woody’s Lodge.

“Bydd y siop hon yn ffagl o obaith ar gyfer cyn-filwyr a phersonél y gwasanaethau golau glas yn Wrecsam, ac rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o’r gymuned arbennig hon. Bydd ychwanegiad eitemau cofiadwy milwrol i’w harddangos yn cryfhau ein cenhadaeth i anrhydeddu a chefnogi’r bobl sydd wedi rhoi gymaint.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: “Rydym yn falch o gefnogi Woody’s Lodge, sydd wedi dewis Wrecsam fel lleoliad eu siop newydd.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r elusen ardderchog hon, sy’n gwneud gymaint i helpu’r bobl sydd wedi gwasanaethu, i ganfod lleoliad canolog yn y ddinas.”

Mae Woody’s Lodge yn gwahodd pawb i ymweld â’r siop newydd, archwilio’r ystod eang o eitemau sydd ar gael, edrych ar yr eitemau cofiadwy milwrol sy’n cael eu harddangos, a dysgu rhagor am genhadaeth yr elusen.

Mae’r elusen yn edrych ymlaen at groesawu’r gymuned leol i’r siop, a chydweithio i gefnogi’r sawl sydd wedi gwasanaethu ein gwlad.

Woody's Lodge yn agor ei siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a’r gwasanaethau golau glas

Rhannu
Erthygl flaenorol Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam yn chwilio am wneuthurwyr! Pobl greadigol – mae arnom ni eich angen chi! Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam yn chwilio am wneuthurwyr! Pobl greadigol – mae arnom ni eich angen chi!
Erthygl nesaf Ydy'ch plentyn, sydd yn ei arddegua, yn aros mewn addysg neu hyfforddiant? Ewch ati i ymestyn eich Budd-dal Plant nawr. Ymestynnwch hawliad Budd-dal Plant eich plentyn yn ei arddegau heddiw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English