Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Mynd Ar-lein: 2 ddigwyddiad cyngor digidol am ddim i’w cynnal yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Wythnos Mynd Ar-lein: 2 ddigwyddiad cyngor digidol am ddim i’w cynnal yn Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lle

Wythnos Mynd Ar-lein: 2 ddigwyddiad cyngor digidol am ddim i’w cynnal yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 4, 2024 12:08 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Swp o dechnoleg ddigidol gyda llechen a ffôn symudol ar ben gliniadur agored
RHANNU

Erthygl wadd – Groundwork Gogledd Cymru

Cynnwys
  • Beth yw Wythnos Mynd Ar-lein?
  • Eisiau gwybod beth yw cynhwysiant digidol?
    • Cysylltedd
    • Hygyrchedd
    • Sgiliau digidol
  • Beth yw’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Wrecsam ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein?
    • Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
    • Mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal yn:
  • Lledaenwch y neges

Beth yw Wythnos Mynd Ar-lein?

Dyma un o ymgyrchoedd cynhwysiant digidol mwyaf ac sydd wedi rhedeg hiraf yn y DU, a gynhelir gan Good Things Foundation. Eleni, mae’n cael ei gynnal o ddydd Llun 14 i ddydd Sul 20 Hydref, 2024.

Eisiau gwybod beth yw cynhwysiant digidol?

Yn syml, mae’n sôn am sicrhau bod buddion y rhyngrwyd a thechnolegau digidol ar gael i bawb.

Os ydych chi’n darllen yr erthygl hon, yna mae’n debygol eich bod yn eithaf hyderus yn defnyddio technoleg, ac nid ydych yn aml yn meddwl am ba mor hawdd y cewch fynediad i, a darllen gwybodaeth ar-lein.

Mae rhai gwahanol resymau pam y gall rhywun fod wedi’u heithrio’n ddigidol – ac nid yw’n golygu pobl nad ydynt yn mynd ar-lein o gwbl.

Mae’r prif resymau dros rywun yn colli allan yn cynnwys:

Cysylltedd

Mae angen cysylltiad i’r rhyngrwyd a dyfais ddigidol (megis gliniadur neu ffôn clyfar) er mwyn mynd ar-lein yn y lle cyntaf. Nid yw’r rhain yn bethau y gall pawb eu fforddio, neu gael mynediad atynt oherwydd eu lleoliad.

Hygyrchedd

Mae angen i wasanaethau gael eu dylunio i ddiwallu holl anghenion defnyddiwr, gan gynnwys y sawl sy’n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol i gael mynediad at wasanaethau digidol (er enghraifft, efallai bod rhai pobl yn defnyddio meddalwedd darllen sgrin i ddarllen gwybodaeth ar dudalen we).

Mae angen i wasanaethau gael eu gosod yn gywir fel bod y technolegau hyn yn gweithio’n effeithiol.

Sgiliau digidol

Yn ôl Good Things Foundation, mae 8.5 miliwn o bobl yn y DU heddiw sydd â diffyg sgiliau digidol er mwyn defnyddio technoleg a’r rhyngrwyd.

Efallai y bydd eraill ar-lein, ond eu bod yn ddefnyddwyr ‘cyfyngedig’ o’r rhyngrwyd. Heb gefnogaeth, mae pobl yn cael eu gadael ar ôl mewn byd sy’n gynyddol ddigidol.

Beth yw’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Wrecsam ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein?

Mae dau ddigwyddiad am ddim wedi’u trefnu, sydd â’r nod o helpu pobl gyda’u sgiliau digidol.

Bydd y digwyddiadau llawn gwybodaeth a hwylus hyn yn darparu cyngor a gweithgareddau digidol ar gyfer y sawl sy’n rhy nerfus neu heb ddigon o hyder yn defnyddio technoleg.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • Disgo Digidol (edrych ar apiau megis Spotify – sut i greu cyfrif a rhestrau chwarae)
  • Cwis Ditectif Digidol (ymchwilio i wahanol bynciau gan ddefnyddio peiriannau chwilio)
  • Deallusrwydd Artiffisial yn erbyn Y Gwir (edrych ar ddelweddau a gweld pa un sy’n wir a pha un a grëwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial)

Mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal yn:

  • Y Canolbwynt Lles (31 Stryt Caer, LL13 8BG) o 10am i 12pm ar 15 Hydref
  • Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt (Ail Rodfa, LL11 4ED) o 1pm i 3pm ar 15 Hydref

Darperir y ddwy sesiwn gan yr elusen Groundwork Gogledd Cymru.

Dywedodd Louise Stokes, Pennaeth Hyfforddiant “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Ewch Ar-lein 2024. Mae sgiliau digidol yn allweddol yn ein byd heddiw, boed hynny er mwyn gallu defnyddio gwasanaethau hanfodol, gwneud cais am swyddi, neu gadw mewn cysylltiad â’r teulu. Trwy weithio gyda Good Things Foundation, rydym yn gobeithio y gallwn helpu hyd yn oed mwy o bobl i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth ddigidol.”

Lledaenwch y neges

Os ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n elwa o’r sesiynau hyn, rhowch wybod iddynt!

Neu os ydych chi’n gallu defnyddio dyfeisiau digidol ond eisiau dysgu rhagor a magu hyder yn eu defnyddio, yna galwch heibio!

Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n byw yn rhywle arall yn y DU a fyddai’n elwa o gefnogaeth ddigidol, gallwch wirio map digwyddiadau Good Things Foundation i weld os oes digwyddiad sy’n agos at eu hardal.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Gŵyl Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Marics Hightown – Hydref 12

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhybudd ymlaen llaw o gau ffordd i gerbydau dros dro – Stryd Charles a Stryd Caer Rhybudd ymlaen llaw o gau ffordd i gerbydau dros dro – Stryd Charles a Stryd Caer
Erthygl nesaf Terry Fox Ras Terry Fox Cymreig Cyntaf i gael ei chynnal yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English