Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnesau Wrecsam yn dod at ei gilydd i rannu arbenigedd, syniadau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Busnesau Wrecsam yn dod at ei gilydd i rannu arbenigedd, syniadau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol…
Busnes ac addysgFideo

Busnesau Wrecsam yn dod at ei gilydd i rannu arbenigedd, syniadau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 11, 2024 2:43 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Daeth cyflogwyr ac entrepreneuriaid lleol at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad arbennig a drefnwyd gan Gyngor Wrecsam, o ganlyniad i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Cynnwys
  • Mae pethau’n argoeli’n dda ar gyfer Wrecsam….
  • Gwylio’r cyflwyniadau allweddol…

Cynhaliwyd y gynhadledd Elevate your Business yng Ngwesty’r Ramada Plaza yn Wrecsam, a ddenodd cynulleidfa o dros 100 o bobl – gyda mynychwyr yn cynrychioli ystod eang o sectorau gan gynnwys manwerthu, lletygarwch a gwasanaethau proffesiynol.

Rheolwyd y digwyddiad gan dîm busnes a buddsoddi’r Cyngor, sy’n cefnogi datblygiad economaidd y fwrdeistref sirol.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi a Thwristiaeth: “Roedd yn ddigwyddiad gwych a diddorol iawn a ddaeth â busnesau o bob lliw a llun at ei gilydd i ffurfio cysylltiadau, dysgu a rhannu syniadau.

“Roedd y gynhadledd yn rhan o’n gwaith i ddatblygu economi lleol mwy llewyrchus ac arloesol sy’n glyfar, yn gysylltiedig ac yn wydn, gyda chadwyni cyflenwi lleol cryf.

“Roedd yn ddiwrnod cynhyrchiol iawn ac rwy’n falch bod y gynhadledd wedi creu awyrgylch gyffrous iawn. Rydym wedi derbyn adborth gwych gan y mynychwyr a oedd yn teimlo eu bod wedi cael eu hysbrydoli, eu cymell ac wedi cael safbwynt hollol newydd.”

Mae pethau’n argoeli’n dda ar gyfer Wrecsam….

Arweiniwyd y digwyddiad gan Jon Cannock-Edwards o The Uncommon Practice.

Cafwyd cyflwyniad ysbrydoledig gan Christian Majgaard, a oedd yn arfer bod yn Bennaeth Brand Byd-eang a Datblygu Busnes gyda LEGO, a oedd yn llawn gwersi personol o’i yrfa nodedig.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam, yn ogystal â nifer o arweinwyr busnes lleol uchel eu parch; Caroline Platt o Platts Agriculture, Darren Gallop a Lisa Bellis o The Very Group, Mike Mccarthy o McCarthy Distribution, John Droog a Mel Whitley o Marlin Industries, a Craig Weeks o JCB Transmissions; a lansiodd Cynghrair Arweinyddiaeth Wrecsam yn swyddogol.

Meddai’r Cynghorydd Williams: “Mae nifer o gwmnïau’n awyddus i fuddsoddi yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac nid yw hynny’n syndod – mae’r fwrdeistref sirol ar agor ar gyfer busnes ac mae pethau’n argoeli’n dda i’r dyfodol, ac mae ar bobl eisiau bod yn rhan o’r llwyddiant.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad – roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig tu hwnt ac yn hysbyseb gwych i Wrecsam.”

Gwylio’r cyflwyniadau allweddol…

Os ydych chi’n fusnes lleol, gallwch elwa o’r gynhadledd drwy gofrestru i dderbyn fideos a chyflwyniadau.

Byddwch hefyd yn derbyn copi o becyn y gynhadledd, sy’n cynnwys nifer o ostyngiadau a chymhellion gan fusnesau lleol.

COFRESTRU

Rhannu
Erthygl flaenorol Metafit, mobility, abs session for women and girls in Gwersyllt. Ymunwch â ni ar gyfer dosbarth Metafit, symudedd a chraidd ar gyfer merched a genethod yn unig!
Erthygl nesaf Achub dy groen Gymru, achub dy groen! Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English