Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Murluniau a gwaith celf bywiog i addurno Wrecsam – lansio Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Murluniau a gwaith celf bywiog i addurno Wrecsam – lansio Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam…
Pobl a lle

Murluniau a gwaith celf bywiog i addurno Wrecsam – lansio Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 21, 2024 10:02 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Murluniau a gwaith celf bywiog i addurno Wrecsam - lansio Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam...
RHANNU

Mae Llwybr Celf Gyhoeddus newydd sbon yn dod i Wrecsam! Bydd y prosiect cyffrous hwn yn dod â gwaith celf a murluniau bywiog i fywiogi llawer o’r waliau gwag ledled canol y ddinas, gan arddangos diwylliant a threftadaeth gyfoethog ac unigryw Wrecsam.

Bydd y prosiect, a gydlynir gan yr artist Liam Stokes-Massey, o Wrecsam, yn gweld themâu fel treftadaeth, marchnadoedd a diwydiant Wrecsam yn cael eu hadlewyrchu yn y gweithiau celf dethol. Ar ôl paentio murluniau eisoes ar ddau safle yng nghanol y ddinas, mae Liam yn falch o weld y prosiect cyffrous hwn yn parhau ac yn ehangu i leoliadau eraill, a dywedodd:

“Rwy’n gyffrous iawn i weithio ar rywbeth rwy’n credu bod ein cymuned wedi bod yn haeddu ers peth amser. Mae Wrecsam wedi bod yn ganolbwynt creadigrwydd ers amser maith, felly pa ffordd well o ddathlu ein treftadaeth, hanes a diwylliant cyfoethog na thrwy’r cyfrwng hwnnw? Mae’n addo bod yn ddathliad lliwgar ac artistig sy’n denu pobl leol a thwristiaid ato.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth:

“Rwy’n falch iawn o weld Wrecsam yn cofleidio prosiect celf gyhoeddus mor fywiog ac arloesol. Bydd y llwybr hwn nid yn unig yn trawsnewid canol ein dinas ond hefyd yn dathlu ein hanes cyfoethog, ein diwylliant amrywiol, a gwaith caled ein pobl leol. Hoffwn ddiolch i Cydlynydd y Prosiect Liam Stokes-Massey a’r swyddogion sydd wedi gwneud gwaith anhygoel wrth ddod â’r weledigaeth hon yn fyw. Alla i ddim aros i weld y gweithiau celf gorffenedig a’r effaith gadarnhaol y byddant yn ei chael ar ein cymuned.”

Ariennir y prosiect gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe’i cefnogir yn gryf gan Ddinas Diwylliant Wrecsam a thimau canol dinas a chelfyddydau CBSW . Daw’r prosiect yn ystod cyfnod o brosiectau adfywio lluosog sy’n digwydd ar draws canol y ddinas, gan gynnwys adnewyddu Marchnadoedd Cyffredinol a’r Cigyddion, Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol Cymru, canolfan newydd sbon ar gyfer diwydiannau creadigol, trawsnewid y Stryd Fawr a datblygiadau i’n seilwaith digidol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Cydweithio a Phartneriaethau:

“Mae’n fy llenwi â balchder i weld y prosiect hwn yn digwydd yn ystod cyfnod uchelgeisiol a chyffrous i Wrecsam. Bydd y llwybr celf cyhoeddus hwn yn ychwanegiad gwych i ganol dinas Wrecsam, nid yn unig yn gwella ei apêl weledol ond hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddenu twristiaid ac arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Wrth i ni barhau i ymdrechu tuag at ein cais Dinas Diwylliant, mae mentrau fel hyn yn dangos ein hymrwymiad i greu cyrchfan fywiog a deniadol i ymwelwyr a phreswylwyr. Rwy’n edrych ymlaen at weld y waliau hyn yn dod yn fyw gyda murluniau bywiog sy’n adlewyrchu straeon ein cymuned.

Bydd y gweithiau celf yn ymddangos ar draws 6 safle newydd, gyda disgwyl i’r gwaith ddechrau yn fuan. Bydd y gweithiau celf newydd yn ategu murluniau pêl-droed presennol yn The Fat Boar, Maes Parcio’r Turf ac ar Lôn Crispin.

Bydd manylion llawn am waith celf a lleoliadau yn cael eu datgelu yn fuan! Dilynwch gynnydd y Llwybr Celf Gyhoeddus trwy dudalenau Facebook City Centre Events a Wrecsam2029, yn ogystal â gwefan Dinas Diwylliant.  

Rhannu
Erthygl flaenorol Carla ac Alex ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth Ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth
Erthygl nesaf surgery to waterloo Llyfrgell Wrecsam ar gau – 26 Hydref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English