Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CYHOEDDI LLEOLIAD MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > CYHOEDDI LLEOLIAD MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Pobl a lle

CYHOEDDI LLEOLIAD MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2024 5:00 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Map lleoliad Eisteddfod Wrecsam yn dangos Is-Y-Coed . Wrexham Eisteddfod location map showing Isycoed
RHANNU

Heddiw (24 Hydref), cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai ardal Is-y-coed ar ochr ddwyreiniol dinas Wrecsam fydd lleoliad y Brifwyl fis Awst 2025.

Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i dir amaethyddol y flwyddyn nesaf, gyda’r Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B gyfochrog â’i gilydd a hynny mewn ardal sy’n gyfleus ar gyfer teithwyr o bob cyfeiriad.

Wrth gyhoeddi’r lleoliad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, “Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni’n mynd i ardal Is-y-coed, ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn fwy nag erioed yn dilyn y cyhoeddiad hwn heddiw. Diolch i bawb a fu ynghlwm gyda’r trafodaethau a’r trefniadau, ac rwy’n hyderus y cawn ni Eisteddfod hynod gofiadwy yma ar gyrion dinas Wrecsam.

“Bydd hwn yn faes braf ac wrth gyhoeddi’r lleoliad, mae’r elfen nesaf o’r gwaith yn cychwyn sef creu nifer o bartneriaethau lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau ein bod ni’n dilyn llwyddiant Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni, gan roi lle amlwg i faterion amgylcheddol ym mhob un o’n trafodaethau.

“Mae’r gwaith o lunio’r rhaglenni artistig yn parhau, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymuno â’r tîm ac sy’n rhan o’r trafodaethau hyn.  Diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr ym mhob cwr o’r sir sydd wrthi’n ddygn yn codi arian ac ymwybyddiaeth.  Mae’r gwaith yn mynd yn arbennig o dda, ac mae brwdfrydedd a chefnogaeth pawb yn y tîm yn gwbl wych.

“Mae nifer o gyhoeddiadau a cherrig milltir ar y gorwel rhwng nawr a’r Nadolig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am bob elfen o’r gwaith paratoi dros y misoedd nesaf. Mae croeso hefyd i unrhyw un sy’n awyddus i ymuno â’r tîm – dyw hi ddim yn rhy hwyr o gwbl. Ewch i wefan yr Eisteddfod i gofrestru a dewch i helpu, cefnogi a chymdeithasu gyda ni!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam, “Mae’n bleser cadarnhau mai Is-y-coed yw lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.

“Mae’r Eisteddfod yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei gefnogi a’i fwynhau drwy’r gweithgareddau a’r codi arian yn ystod y cyfnod paratoi, yn ogystal â’r ŵyl ei hun.

“Dyma’r cyfle perffaith i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych chi neu ddechrau dysgu ychydig ar ein hiaith cyn i’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf o’i bath yn Ewrop gyrraedd ardal Is-y-coed yma yn Wrecsam fis Awst nesaf.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-coed o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf. Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dementia Cyrsiau hyfforddi dementia sydd i ddod
Erthygl nesaf Artist's impression of Wrexham High Street  Rhybudd ymlaen llaw am gau strydoedd i gerbydau dros dro – Stryt Fawr a Stryt yr Hôb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English