Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ymweld â chanolfannau ailgylchu dros y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ymweld â chanolfannau ailgylchu dros y Nadolig
Y cyngorPobl a lle

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ymweld â chanolfannau ailgylchu dros y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 16, 2024 9:54 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Recycling
RHANNU

Fel y gwyddoch mae’n debyg, mae’r Nadolig yn amser prysur yn y canolfannau ailgylchu bob amser, felly mae’n syniad da i gynllunio eich ymweliad ymlaen llaw i’w gwneud mor hawdd a di-straen â phosibl.

Cynnwys
  • Didolwch eich ailgylchu cyn gadael
  • Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser
  • Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf yn draddodiadol
  • Oriau Agor
  • Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
  • Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Rydym yn gwerthfawrogi y gall y Nadolig fod yn gyfnod sy’n achosi llawer o straen beth bynnag, a’ch bod yn debygol o fod eisiau mynd i mewn ac allan o’r cyfleusterau cyn gynted â phosibl. Dyma pam mae hi’n well paratoi a chael popeth sydd ei angen arnoch yn barod o flaen llaw.

Dyma rai pethau y gallwch ei wneud cyn cychwyn sydd wir yn ein helpu, ond sydd hefyd yn ei gwneud yn gyflymach a mwy esmwyth i chi hefyd…

Didolwch eich ailgylchu cyn gadael

Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.

Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.

Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser

Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.

Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.

Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf yn draddodiadol

Mae bob amser yn syniad da ystyried pryd ydych chi’n ymweld a cheisio osgoi’r adegau prysuraf pan fo’n bosibl.

Oriau Agor

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT
8am – 8pm

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR
9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES
9am – 4pm

Noder y bydd y tri chanolfan ail-gychu ar gau ar ddiwrnod Nadolig.

Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.

Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Croesawir llyfrau a beiciau i deganau plant a nwyddau’r cartref, unrhyw beth nad ydych yn eu defnyddio mwyach, ond efallai y gallent fod yn ddefnyddiol i rywun arall, yn y Siop Ailddefnyddio ar Lôn y Bryn.

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Gallwch gyfrannu i’r siop ailddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, felly ym mis Ionawr, os nad ydych eisiau cadw eich coeden artiffisial neu addurniadau tan y flwyddyn ganlynol, bydd y siop yn hapus i’w cymryd nhw.

Bydd y siop yn cadw’r eitemau ac yn eu gwerthu nhw’r flwyddyn ganlynol. Byddent yn hapus i dderbyn cyfraniadau hyn yn oed tu allan i’r tymor.

Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchucanolfan ailgylchurecyclingrecycling centres
Rhannu
Erthygl flaenorol Oriau agor Galw Wrecsam a'r Ganolfan Gyswllt dros y Nadolig Oriau agor Galw Wrecsam a’r Ganolfan Gyswllt dros y Nadolig
Erthygl nesaf Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’… Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English