Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyflwyno Gorchymyn Gorfodi ar drefnydd digwyddiadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyflwyno Gorchymyn Gorfodi ar drefnydd digwyddiadau
Arall

Cyflwyno Gorchymyn Gorfodi ar drefnydd digwyddiadau

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 10, 2024 10:27 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Cyngor Wrecsam
Cynhaliwyd y gwrandawiad llys yn dilyn ymchwiliad manwl gan Swyddogion Safonau Masnach Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam.
RHANNU

Mewn gwrandawiad yn Llys Sirol Yr Wyddgrug ddydd Gwener 29 Tachwedd cyflwynwyd Gorchymyn Gorfodi ar drefnydd gwyliau cerdd Rock the Park sydd wedi cael eu cynnal yn Wrecsam. Roedd yr un diweddaraf ym mis Awst 2023.

Cynhaliwyd y gwrandawiad llys yn dilyn ymchwiliad manwl gan Swyddogion Safonau Masnach Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam i honiadau gan nifer fawr o gwsmeriaid.

Roedd y cwynion yn cynnwys methu â rhoi ad-daliadau ar ôl i ddigwyddiadau gael eu canslo, methu ag ymateb i gwynion, a gwrthod hawl cwsmeriaid i gael ad-daliad.

Daeth yr achos llys ar ôl i’r diffynnydd fethu â rhoi sicrwydd ffurfiol i’r Cyngor y byddai’n cydymffurfio ag amrywiaeth o ofynion cyfreithiol, yn enwedig cyfreithiau sy’n ymwneud â diogelu’r cwsmer a rhoi ad-daliad am gostau tocynnau ar gyfer digwyddiadau a gafodd eu canslo maes o law.

Os bydd y diffynnydd yn torri rhai o’r telerau a osodwyd gan y Gorchymyn fe allai ddangos dirmyg llys a allai arwain at ddirwy neu garchar.

Gwnaed y gorchymyn yn erbyn y trefnydd yn bersonol ac fe fydd yn berthnasol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau maen eu trefnu yn y dyfodol, waeth beth yw statws unrhyw gwmni cyfyngedig y caiff y digwyddiad ei drefnu drwyddynt.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Wrecsam: “Rwy’n croesawu canlyniad yr achos llys yma a dwi’n gobeithio y bydd y bygythiad o ddirmyg llys yn gwneud i drefnydd y digwyddiad ystyried fel bod buddiannau defnyddwyr yn Wrecsam yn cael eu gwarchod yn y dyfodol.

“Nid yw’n dderbyniol bod y rhai sy’n mynd i wyliau ar eu colled o gannoedd o bunnoedd weithiau os nad yw digwyddiad yn cael ei gynnal.”

Mae’r gorchymyn hefyd yn golygu bod rhaid i’r diffynnydd gael unrhyw drwydded angenrheidiol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad maen ei drefnu, ymgeisio mewn digon o amser am drwydded a chadw at bob amod o’r drwydded honno.

Rhannu
Erthygl flaenorol Armed Forces Gwasanaeth Carolau y Lluoedd Arfog yn Dychwelyd
Erthygl nesaf Wrexham tourism ambassador scheme A ellwch chi fod yn Llysgennad dros Wrecsam?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English