Mae nifer y ceir sy’n defnyddio gwasanaeth parcio a theithio Ffordd Rhuthun eisoes wedi dyblu y tymor hwn!
Ac nid yw’n syndod, gan ei fod yn lle parcio rhad, cyfreithlon a chyfleus – heb unrhyw risg o ddirwy parcio. Ac mae digon o le o hyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ei wneud yn rhan o’ch defod ar ddiwrnod gêm!
Wrecsam v Preston | Dydd Sadwrn, 17 Hydref | Cic gyntaf 3pm
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU.
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 1pm; bws olaf 2.20pm
Ar ôl y gêm
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 5pm o Ffordd yr Wyddgrug; bws olaf 6.20pm.
Mae pob bws ar ôl y gêm yn rhedeg o Ffordd yr Wyddgrug.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 7pm.
Nod y gwasanaeth parcio a theithio ar Ffordd Rhuthun yw atal parcio anghyfreithlon, peryglus ac anystyriol – sy’n well i gefnogwyr sy’n mynd i’r gêm ac i drigolion sy’n byw o fewn pellter cerdded i’r Cae Ras.
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau…
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau, beth am ddal y bws a thalu llai wrth ddangos eich tocyn gêm i’r gyrrwr?
Prynwch Docyn Parth Wrecsam (gallwch weld y llwybrau yma) a thalu £3.00 ar gyfer Oedolyn/£2.00 ar gyfer Plentyn – gan arbed hyd at £2.60.
Ar ôl y gêm fydd dim brys i deithio gartref gan fod tocynnau dydd yn ddilys hyd at 11.59pm ar y diwrnod, felly gallwch aros yng nghanol y ddinas i ddathlu buddugoliaeth arall!


