Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor

Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 14, 2026 12:09 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
RHANNU

Mae’r paratoadau ar y gweill i gadw Bwrdeistref Sirol Wrecsam i symud yn ystod y misoedd oerach.

Mae tua 8,000 tunnell o halen mewn stoc ar hyn o bryd, tra bod timau’n paratoi’r fflyd graeanu, gan wirio ac ailgyflenwi mwy na 500 o finiau halen a phentyrrau halen cyn y gaeaf.

Mae 12 cerbyd graeanu mawr sy’n gweithredu ar 10 prif lwybr graeanu ar draws Wrecsam, sy’n cwmpasu tua 500km o ffyrdd.

Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau

Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys ffyrdd allweddol A a B, llwybrau bysus strategol, prif lwybrau mynediad i ysgolion, llwybrau trwy ganol dinas Wrecsam a chanol trefi eraill ar draws y fwrdeistref sirol, ffyrdd ystadau diwydiannol a phrif feysydd parcio’r cyngor.

Mae gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf yn cynnwys llawer mwy nag anfon cerbydau graeanu allan pan fydd y tymheredd yn gostwng.

Trwy gydol cyfnod y gaeaf, mae staff hyfforddedig yn monitro rhagolygon tywydd manwl ac amodau ffyrdd i benderfynu pryd mae angen triniaeth ragofalus.

Derbynnir rhagolygon bob dydd, gyda chriwiau yn gallu ymateb i amodau newidiol y tu allan i oriau gwaith arferol.

Pan ragwelir rhew, bydd ffyrdd Blaenoriaeth 1 yn cael eu trin cyn i rew ffurfio lle bynnag y mae’r amodau yn caniatáu. Mae triniaeth lawn yn cymryd tua dwy awr a hanner.

Yn ystod cyfnodau o eira, mae’r llwybrau hyn yn cael eu trin ymlaen llaw lle bo’n bosibl a gall criwiau barhau i weithio ddydd a nos nes bod y rhwydwaith blaenoriaeth wedi’i glirio.

Hefyd, gellir gosod aradr eira ar gerbydau graeanu pan fo’r amodau yn gofyn am hynny.

Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau

Unwaith y bydd llwybrau Blaenoriaeth 1 wedi cael y driniaeth briodol, gall adnoddau symud i ffyrdd Blaenoriaeth 2, gan gynnwys ffyrdd ystadau tai, llwybrau mynediad i gymunedau gwledig llai ac unrhyw lwybrau bysus prysur sy’n weddill. Mae ffyrdd eraill yn cael eu trin fel y mae adnoddau ac amodau yn caniatáu.

Gall ymateb yn ystod y gaeaf hefyd ymestyn i droedffyrdd pan fydd eira wedi setlo neu yn ystod cyfnodau hir o dywydd rhewllyd.

Rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd gan gynnwys canol dinas Wrecsam a chanol trefi ac ardaloedd siopa cyfagos, llwybrau o amgylch adeiladau dinesig ac ysbytai, cartrefi preswyl, canolfannau dydd, ysgolion, pontydd troed a safleoedd bws.

Darperir biniau halen hefyd mewn lleoliadau ar draws y fwrdeistref sirol i ganiatáu i drigolion a gyrwyr helpu i drin rhannau o’r briffordd gyhoeddus nad ydynt yn llwybrau graeanu blaenoriaeth.

Mae’r halen yn y biniau hyn i’w ddefnyddio ar y briffordd gyhoeddus yn y lleoliad hwnnw ac ni ddylid ei symud at ddefnydd preifat.

Mae cerbydau graeanu Cyngor Wrecsam wedi’u gosod ag offer olrhain sy’n caniatáu i weithrediadau gael eu monitro ac maent yn cofnodi pryd a ble mae halen wedi’i wasgaru.

Yn ystod tywydd garw, gellir sefydlu ystafell reoli bwrpasol hefyd i gydlynu’r ymateb, gyda thimau yn gallu galw ar adnoddau ychwanegol pan fo angen.

Mae gwaith yn parhau i optimeiddio llwybrau graeanu hefyd, gan helpu i leihau teithiau ac allyriadau carbon diangen gan y cerbydau, wrth gynnal safonau gwasanaethau’r gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae cryn dipyn o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni i wneud yn siŵr ein bod yn barod ar gyfer y gaeaf.

Mae ein timau yn monitro rhagolygon yn agos trwy gydol y tymor, yn cynnal ein stociau halen ac offer, ac maent yn barod i ymateb pan fydd y tymheredd yn gostwng neu eira a rhew yn cael eu rhagweld.

Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu’r llwybrau sy’n cael y mwyaf o draffig ac sy’n darparu mynediad at wasanaethau pwysig, ond yn ystod amodau mwy difrifol, bydd ein timau yn parhau i weithio ar hyd y rhwydwaith fel y mae adnoddau’n caniatáu. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â gwasanaeth cynnal a chadw’r gaeaf am y gwaith maent yn ei wneud i helpu i gadw Wrecsam i symud yn ddiogel.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Datblygu arloesi ffresni bwyd Datblygu arloesi ffresni bwyd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle
Hydref 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English