Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Freedom Leisure yn cipio dwy Wobr Bwysig Nofio Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Freedom Leisure yn cipio dwy Wobr Bwysig Nofio Cymru
Pobl a lle

Freedom Leisure yn cipio dwy Wobr Bwysig Nofio Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 17, 2025 9:04 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Freedom Leisure yn cipio dwy Wobr Bwysig Nofio Cymru
RHANNU

Erthygl Gwadd Freedom Leisure

Mae Freedom Leisure, un o ymddiriedolaethau hamdden dielw elusennol mwyaf blaenllaw y DU sy’n rheoli 29 canolfan hamdden ledled Cymru, wedi ennill rhai o gategorïau pwysicaf y gwobrau eleni – Darparwr Dysgu Nofio y Flwyddyn a hefyd y Wobr Cynaliadwyedd mewn seremoni wobrwyo ddisglair a gynhaliwyd yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Mae’r gwobrau mawreddog hyn, a drefnir gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru, yn cydnabod ac yn dathlu ysbryd anhygoel gweithgareddau dŵr trwy arddangos angerdd, ymroddiad a chyflawniad rhagorol unigolion, grwpiau a sefydliadau.

Mae Freedom Leisure yn rheoli canolfannau hamdden yng Nghymru ar ran cynghorau ym Mhowys, Wrecsam ac Abertawe ac mae ganddo dros 12,000 o nofwyr ar ei raglen Dysgu Nofio Cymru gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr nofio yn addysgu plant ac oedolion i ddysgu ‘sgil bywyd’ nofio.

Dywedodd Ivan Horsfall Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure; “Rydym yn hynod falch o ennill y gwobrau hyn a hoffwn eu cyflwyno i’m holl gydweithwyr sy’n darparu rhaglen ardderchog o wersi nofio bob wythnos ym mhob un o’n pyllau nofio ledled Cymru.”

Parhaodd Ivan; “Rydym yn falch iawn o groesawu dros 800,000 o ymweliadau â’n pyllau nofio bob blwyddyn ac rydym yn falch o gael dros 12,000 o gyfranogwyr ar ein Rhaglen Dysgu Nofio Cymru. Mae cael partneriaeth gref gyda Nofio Cymru yn ein galluogi i ddarparu profiad gwych i blant ac oedolion, gan gefnogi eu twf mewn hyder gyda sgil bywyd sy’n arwain at fwynhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr, yn enwedig yn ein hardaloedd arfordirol fel yn Abertawe.

“Mae’r wobr ‘Menter Gynaliadwyedd y Flwyddyn’ yn dangos bod Freedom Leisure wedi gosod meincnod newydd ar gyfer cynaliadwyedd yn y sector hamdden trwy ei gamau gweithredu a’i fuddsoddiadau sylweddol parhaus mewn effeithlonrwydd ynni a thrwy fod y sefydliad hamdden cyntaf i ddod yn Sefydliad Llythrennedd Carbon achrededig.

Dywedodd Angela Brown, Pennaeth Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol Freedom Leisure sy’n priodoli cyfran sylweddol o’r llwyddiant i gyfranogiad ac ymrwymiad Cynghorau Powys, Wrecsam ac Abertawe; “Cwblhawyd ychydig dros £1,000,000 o brosiectau effeithlonrwydd ynni a thechnoleg carbon isel yn 2024 ledled Cymru.  Gwnaed yr ymyriadau hyn yn bosibl trwy geisiadau cyllid llwyddiannus, perthynas waith gref gyda’n partneriaid cyngor a’n buddsoddiadau ein hunain.

Mae Angela’n parhau; “Mae hyn yn arddangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, yn ogystal â’n partneriaid cyngor, a’n dull rhagweithiol ar y cyd o leihau allyriadau carbon.  Hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hymdrechion diwyro i gefnogi’r prosiectau hyn a’u gwireddu.”

“Trwy ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, rydym nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon ond hefyd yn creu arbedion costau gweithredol hirdymor, y gellir eu buddsoddi mewn rhaglenni cymunedol a gwelliannau i gyfleusterau gan sicrhau bod ein canolfannau hamdden yn parhau i ffynnu.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Hamdden yng Nghyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones “Ar ran Cyngor Wrecsam hoffwn longyfarch y tîm cyfan ar eu dwy wobr fawreddog Nofio Cymru, mae hyn yn dyst i waith caled pawb a gymerodd ran ac ansawdd uchel Gyfleusterau Freedom Leisure.”

Ymunodd cydweithwyr â Phrif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure, Ivan Horsfall Turner yn y seremoni ar 1 Chwefror 2025 yng Nghaerdydd.  Mae pob un ohonynt yn gweithio yn y canolfannau hamdden ar draws Cymru, gan ddangos angerdd ac ymrwymiad y sefydliad i ddatblygu gweithgareddau dŵr yng Nghymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Swift Digwyddiad am ddim – dysgwch am wenoliaid duon!
Erthygl nesaf Digwyddiad cyflwyniad ‘Yn ei Blodau’ Digwyddiad cyflwyniad ‘Yn ei Blodau’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English