Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Isogenus Nubecula-fedrwch helpu i ddod o hyd i’r anifail prinnaf yn Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Isogenus Nubecula-fedrwch helpu i ddod o hyd i’r anifail prinnaf yn Wrecsam?
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Isogenus Nubecula-fedrwch helpu i ddod o hyd i’r anifail prinnaf yn Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 24, 2025 3:07 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Isogenus Nubecula-fedrwch helpu i ddod o hyd i'r anifail prinnaf yn Wrecsam?
RHANNU

Erthygl Gwadd – Buglife Cymru

Allwch chi helpu?  

Ydych chi’n cerdded ar hyd Afon Dyfrdwy, yn pysgota yn yr afon, yn padlfyrddio, yn caiacio, neu oes gennych chi erddi ger yr afon?  Os felly, efallai y dewch chi ar draws pryfyn bach, main, tywyll tua 2cm o hyd yn eistedd ar ddant y llew neu flodyn arall, neu efallai ar bostyn ffens, efallai hyd yn oed ar goeden neu bont. Os byddwch chi, rhowch wybod i Buglife Cymru! 

Mae’r pryfyn cerrig Isogenus nubecula yn bryfyn cerrig sydd mewn perygl difrifol a’i unig gartref hysbys yn y DU yw Afon Dyfrdwy a’i glannau wrth iddi lifo trwy Fwrdeistref Wrecsam. Mae Buglife Cymru, gyda chefnogaeth Sw Caer a gwirfoddolwyr eraill, yn ymdrechu i ddarganfod popeth y gallant am “bryfyn cerrig Wrecsam” ym mis Ebrill a mis Mai; y misoedd pan fydd yn byw allan o’r dŵr.  

Swyddog Cadwraeth Isogenus nubecula Buglife Cymru, Natur am Byth, Sarah Hawkes sy’n rhannu: “Rydyn ni’n gofyn i drigolion Wrecsam fynd ati i gadw llygad ar yr afon.  Os ydych chi’n gweld y pryfyn cerrig hwn, neu bryfyn a allai fod yn Isogenus nubecula, tynnwch lun ac anfonwch y llun at Buglife trwy’r ddolen isod neu gan ddefnyddio’r cod QR ar un o’n taflenni.  Gall fod yn eithaf anodd ei adnabod a llun sy’n edrych ar gefn y pryfyn fel ein hesiampl ni, sy’n ein helpu fwyaf.”

Mae Buglife yn croesawu pob llun posibl o’r pryfyn a pho fwyaf o luniau o bryfed cerrig a gyflwynir gan y cyhoedd, gyda gwybodaeth am ble cawsant eu gweld, ar beth y cawsant eu gweld a beth oedden nhw’n ei wneud, y mwyaf o wybodaeth y bydd yn gan y cadwraethwyr ar gyfer arolwg y flwyddyn nesaf.

Dywed Sarah: “Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, ymlaen llaw, am eich help a’ch ffotograffau.  Os byddwch yn cyflwyno’ch cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon neges atoch i roi gwybod pa greadur rydych chi wedi’i weld ac yn eich diweddaru ar gynnydd y prosiect.”

I gymryd rhan i “Chwilio am y Pryfyn Cerrig Isogenus nubecula“, a chyflwyno’ch lluniau, ewch i dudalen we arolwg Buglife, lle gallwch hefyd lawrlwytho canllaw defnyddiol a chyfarwyddiadau i’w cymryd gyda chi wrth i chi archwilio Afon Dyfrdwy.

•    Dolen
•    Dolen i’r canllaw

Rhannu
Erthygl flaenorol Ruthin Road Car Park Wrecsam v Charlton: Rhowch gynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun
Erthygl nesaf Cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n cefnogi yn lansio prosiect Benthyca a Thrwsio Wrecsam Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English