Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Arall

Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 7, 2025 10:33 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
RHANNU

Mae menyw ifanc yn rhan o ymgyrch i atal pobl rhag defnyddio eu ffonau symudol i ffilmio wrth safle digwyddiad ar ôl i’w thad ymladd am ei fywyd ar ôl cael ei daro gan gar.

Mae Eve Thomas o Hirwaun, a oedd yn 17 oed ar y pryd, yn siarad am ba mor ddinistriol yw hi i wybod bod pobl wedi uwchlwytho lluniau o’r ddamwain i’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd cannoedd o bobl yn dyfalu am ei thad, Nigel Thomas, a’i gyflwr ar-lein.

Mae’r ymgyrch, Nid dy stori di i’w hadrodd yw hi, yn cael ei harwain gan Rwydwaith Trawma De Cymru ac yn cael ei chefnogi gan nifer o asiantaethau gan gynnwys heddluoedd Cymru a gwasanaethau golau glas eraill.

“Ro’n i ar fy ffordd adre o’r ysgol pan cafodd ein bws ei stopio oherwydd damwain traffig,” meddai Eve.

“Sylwais i ar feic dad ac ro’n i’n gwrthod ei dderbyn, ond ro’n i’n gwybod taw ei feic e oedd e gan taw fi oedd wedi rhoi’r sticeri arno. Dechreuodd myfyrwyr ar y bws ffilmio’r olygfa ar eu ffonau, a oedd yn anghywir.

“Pan gyrhaeddais i adre o’r diwedd, darganfyddais i taw dad oedd e a dyma’r holl beth yn fy llorio. Roedd yn reidio adre o’r gwaith pan gafodd ei daro gan gar. Roedd ganddo anafiadau wnaeth newid ei fywyd, doedden ni ddim yn gwybod a oedd e’n mynd i oroesi. Treuliodd wythnosau mewn coma meddygol a naw mis yn yr ysbyty. Doedd dim geiriau i esbonio sut o’n i’n teimlo, doedd e ddim yn teimlo’n real.

“Roedd gymaint yn waeth oherwydd ro’n i’n gwybod bod pobl yn rhannu’r hyn roedden nhw wedi’i ffilmio ac yn dyfalu am yr hyn oedd wedi digwydd ar-lein. Roedd fy mam fedydd wedi gweld y stori ar-lein ac wedi ein ffonio ni yn meddwl bod dad wedi marw.”

Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.

Mae Eve, sydd bellach yn 25 oed, yn gofyn i bobl oedi a meddwl am effaith ddynol ffilmio damweiniau a rhannu cynnwys ar-lein. Cafodd gefnogaeth arbenigol gan Rwydwaith Trawma De Cymru ar ôl gweld ail ddigwyddiad difrifol iawn, gan sbarduno teimladau trawmatig eto.

Dywedodd Eve: “Mae’r person yna o’ch blaen chi yn rhiant, plentyn, neu ffrind i rywun. A fyddech chi eisiau i rywun ffilmio rhywun sy’n annwyl i chi pan maen nhw fwyaf bregus, neu a fyddech chi eisiau iddyn nhw alw am help?

“Roedd y modd y cafodd pethau eu ffilmio a’u rhoi ar gyfryngau cymdeithasol yn rhan fawr o sut effeithiodd y cyfan arnai ac roedd llawer o’r therapi i fy helpu i symud ymlaen yn seiliedig ar hynna.”

Mae Nigel, cyn-yrrwr danfon nwyddau 65 oed, bellach yn byw yn ei gartref ac yn derbyn gofal gan Eve. Mae hi’n gobeithio y bydd ei stori yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn ffilmio wrth safle damwain, gan symud y ffocws o recordio cynnwys dychrynllyd i ddangos tosturi tuag at ddioddefwyr a’u teuluoedd.

“Os y galla i atal un teulu yn unig rhag profi’r hyn aethon ni drwyddo, yna bydd rhannu ein stori wedi bod yn werth chweil,” meddai Eve.

Profiad Eve a’i hawydd i atal pobl eraill rhag profi’r un peth a ysgogodd y syniad ar gyfer yr ymgyrch, ac fe’i cynhyrchwyd ganddi hi ar y cyd ag Andrea Bradley, Rheolwr Gweithrediadau Rhwydwaith Trawma De Cymru. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys ysbytai, gwasanaethau brys a gwasanaethau adsefydlu ledled y rhanbarth, yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod cleifion ag anafiadau sy’n peryglu bywyd neu sy’n newid bywyd yn derbyn y driniaeth a’r gofal gorau posibl.

Mae Andrea Bradley hefyd yn Uwch Nyrs gyda phrofiad helaeth o drawma. Dywedodd Andrea: “Rydym yn hynod falch o Eve a’i dewrder i adrodd ei stori, gan dynnu sylw at faterion yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol wrth safle digwyddiad. Mae’n cael effaith ar y gwasanaethau brys sy’n ceisio darparu’r gofal gorau posibl mewn amgylchiadau anodd. Fel y gallwch weld o stori Eve, mae hefyd yn brofiad negyddol parhaol i’n cleifion a’u hanwyliaid.”

Dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy: “Mae hon yn ymgyrch hynod bwerus. Mae stori Eve a’i thad Nigel yn dangos sut y gall yr hyn sydd efallai’n ymddangos fel chwilfrydedd, llun cyflym a phostiad ar y cyfryngau cymdeithasol, achosi effeithiau hirdymor a thrawma i’r rhai yr ochr arall i’r lens. Rwy’n canmol Eve am ei dewrder wrth siarad am hyn a gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i alw am gymorth wrth weld damwain neu achos fel hyn.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background. Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Erthygl nesaf Waste Collections Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
The Longest Yarn 2
ArallDigwyddiadau

Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English