Mae Cyngor Sir Bwrdeistrefol Wrecsam yn cynnig cyrsiau beicio am dddim i oedolion a theuluoedd sydd eisiau datblygu eu hyder yn beicio ar ein ffyrdd diolch i arian grant gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyrsiau yn cael eu cynnal gan Seiclo Clwyd Ltd, sydd yn cynnal cyrsiau hyfforddiant beicio mewn ysgolion ar draws y sir. Mae eu hyfforddwyr oll yn gymwys fel Hyfforddwyr Safonau Beicio Cenedlaethol, maent wedi eu hyfforddi i ddarparu Cymorth Cyntaf ac mae ganndynt oll dystysgrifau gwiriad manwl y swyddfa cofnodion troseddol.
Bydd angen beic sydd yn addas ar gyfer y ffordd. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwisgo helmed beicio. Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd, ee. Dillad tywydd gwlyb a menyg – neu ddilad llac ac eli haul os yn braf.
Gellir trefnu cael mynediad at feiciau a helmedau Cyngor Sir Bwrdeistrefol Wrecsam cyn belled bod gan Seiclo Clwyd ddigon o amser a gwybodaeth.
Cofiwch ddod a dŵr a bwyd er mwyn sicrhau eich gallu i ganolbwyntio!
Bydd cyrsiau yn dechrau gyda sgiliau elfennol defnyddio’r beic, yno’n symud ymlaen i strydoedd tawel cyn mynd ar lwybrau prysurach.
Bydd y cyrsiau yn cael eu cyfyngu i 6 beiciwr i bob cwrs, byddent yn dechrau am 09:30 ac yn parhau am 4 awr ar y dyddiadau canlynol:
14eg, 15ed, 21ain a 22ain o Awst 2025.
Mae man cychwyn gwahanol ar gyfer pob diwrnod:
- 14eg: Gwersyllt
- 15ed: Bradle
- 21ain & 22ain: Parc Bellevue
I gadw lle neu am fwy o fanylion cysylltwch gydag admin@seicloclwyd.com neu gan yrru neges at Seiclo Clwyd ar Facebook.