Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 4, 2026 12:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Cynhaliodd y tîm o amgueddfa bêl-droed Cymru weithdai arbennig heddiw yn y Wynnstay Arms yn Wrecsam, i nodi 150 mlynedd ers ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Cafodd disgyblion o ysgolion cynradd Wrecsam eu gwahodd i’r Wynnstay Arms i ddarganfod gwreiddiau pêl-droed Cymru ar ei ben-blwydd yn 150 oed.  Mae’r digwyddiad hwn yn helpu i lywio’r rhaglen ddysgu ar gyfer yr amgueddfa wrth i ni baratoi ar gyfer ailagor.”

Eleri Farley – Swyddog Dysgu, Amgueddfa Dau Hanner Wrecsam

Roedd pob sesiwn yn canolbwyntio ar sut a pham y ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac roedden nhw wedi’u cynnal yn yr ystafell a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyfarfod cyntaf hwnnw 150 mlynedd yn ôl. Trefnwyd y byrddau fel ystafell fwrdd gydag enwau’r mynychwyr wedi’u gosod o’u blaenau ym mhob lleoliad.

Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithdy diddorol lle roedden nhw’n cael gafael gwrthrychau go iawn, gwisgo gwisgoedd replica, a defnyddio sanau pêl-droed i archwilio sut roedd chwaraewyr yn arfer cael eu hadnabod ar y cae. Fe wnaethon nhw hefyd ddysgu pwy wnaeth fynychu cyfarfod cyntaf Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chawson nhw eu hannog i archwilio pwy oedd ar goll a pham, a arweiniodd at drafodaethau ynghylch gêm y merched a hanesion y mwyafrif byd-eang.

Dilynodd y sesiynau arddull debyg i brosiect peilot llwyddiannus a gynhaliwyd gyda Llyfrgelloedd Sir Gâr ddiwedd 2025, lle bu’r disgyblion yn archwilio straeon amrywiol ynghylch pêl-droed Cymru gan gynnwys gêm y merched.

Roedd y digwyddiad heddiw yn coffáu pen-blwydd pwysig yn stori pêl-droed Cymru, gan addysgu ysgolion am hanes lleol a chenedlaethol gan gefnogi’r cwricwlwm i Gymru.

Dywedodd Paul Roberts, aelod arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros bartneriaethau a diogelwch cymunedol: “Mae’r grwpiau ysgolion yn y Wynnstay wedi mwynhau blas ar y ffyrdd newydd diddorol ac arloesol y byddan nhw’n archwilio ac yn dysgu am ein hanes lleol a’n hanes pêl-droed amrywiol. Mae’r profiad hwn yn cynnig cipolwg cyffrous ar sut y bydd ymweliadau yn y dyfodol yn dod â’r gorffennol yn fyw trwy adrodd straeon rhyngweithiol a darganfod ymarferol yn amgueddfa newydd Wrecsam.

Roedd y disgyblion yn llawn cyffro i gyfarfod Craig Bellamy a Chris Gunter ar ddiwedd eu sesiwn, wrth i aelodau o Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyrraedd ar gyfer eu cyfarfod cyngor coffa yn y Wynnstay.

“Am gyfle gwych i dynnu lluniau a chyfle arbennig i blant gyfarfod eu harwyr pêl-droed ar ddiwrnod mor bwysig yn hanes pêl-droed Cymru. Rydyn ni wedi mwynhau amserlen lawn ac ysbrydoledig yn Wrecsam, gan ddechrau gyda thîm yr amgueddfa, a arddangosodd wrthrychau rhyfeddol o’r casgliad i aelodau ein cyngor yn y lleoliad hanesyddol hwn – rhan annatod o stori bêl-droed Cymru.

Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Diwylliant, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae gwaith ailddatblygu yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn mynd rhagddo yn gyflym, gydag orielau yn siapio gan ddatgelu’r cynllun newydd helaeth. Mae’r adeilad hanesyddol yn dod i’r amlwg yn dilyn gwaith adnewyddu ac mae’r atyniad cenedlaethol newydd sbon o’r radd flaenaf ar fin agor yn ddiweddarach eleni. 

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines
Erthygl nesaf Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM! Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025
ArallArall

Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025

Rhagfyr 1, 2025
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English