Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 2, 2026 12:04 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham cemetery
RHANNU

Fel rhan o Flwyddyn o Ryfeddod Wrecsam, mae Cylch Hanes Wrecsam wedi paratoi llu o deithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn.

Cynnwys
  • Meddygon medrus ac adeiladwyr arbennig
  • O’r anghofiedig i’r anarferol
  • Symbolau a bwganod
  • Sut i gadw eich lle

Ond nid teithiau cerdded arferol yw’r rhain. Bydd y teithiau hyn yn eich tywys drwy’r straeon hanesyddol sy’n aros am gael eu clywed ym mynwent Wrecsam.

Dewch i ni gymryd golwg ar yr hyn sydd i’w ddarganfod wrth i chi gamu i’r gorffennol.

Meddygon medrus ac adeiladwyr arbennig

Er mwyn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ddydd Sadwrn 7 Mawrth, bydd meddygon benywaidd gwych yn sôn am feddygon penigamp Wrecsam yn y blynyddoedd a fu.

Yma, bydd gwesteion yn dysgu am feddyg benywaidd cyntaf Wrecsam, nyrs Tloty Undeb Wrecsam ac arloeswr ym maes gofal iechyd menywod.

Yn ymuno â’r ensemble o arwyr meddygol mae nyrs ddewr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a meddyg arwrol Pwylaidd o’r Ail Ryfel Byd. Mae’r daith yn dechrau am 11am.

Ddydd Sadwrn, 4 Ebrill, gallwn edrych ymlaen at Fudiad Mynwentydd yr Ardd a sylfaenwyr ac adeiladwyr taith mynwentydd Wrecsam.

Gall ymwelwyr ddysgu am y dull arloesol Garddol o greu mynwentydd Fictoraidd a ddylanwadodd ar y gwaith o ddatblygu, dylunio ac adeiladu ‘Mynwent Newydd’ y Fwrdeistref.

Mae Wrecsam yn ymfalchïo yn yr enghraifft orau o’r arddull hon yng Nghymru gyfan. Ar hyd y ffordd, gallwch weld ei strwythurau nodedig a beddau’r rheiny a helpodd i’w chyflawni. Mae’r daith yn dechrau am 11am.

O’r anghofiedig i’r anarferol

Mae 1,078 o breswylwyr anghofiedig a staff ymroddedig Tloty Undeb Wrecsam. Roedd ganddynt berthynas ddadleuol weithiau â Bwrdd y Gwarcheidwaid a Chyngor Tref Wrecsam.

Gallwch glywed popeth amdano ddydd Sadwrn, 2 Mai, wrth i Gylch Hanes Wrecsam ymweld â beddau preswylwyr heb eu marcio, meistr a meistres y tloty, a rhai o’r gweision sifil a fu’n brwydro. Mae’r daith yn cychwyn am 11am.

Agorwyd mynwent Wrecsam ym 1876 ac yn ei blwyddyn gyntaf, gwelwyd llawer o gladdedigaethau dadleuol, nodedig, trasig ac anarferol ar y safle.

Ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, dewch draw i glywed popeth amdanyn nhw wrth i’r daith i flwyddyn nodedig Wrecsam ddechrau am 11am.

Symbolau a bwganod

Mae cerrig beddi yn dal llawer o symbolau ac mae ganddyn nhw eu hystyr unigryw eu hunain. Mae Cylch Hanes Wrecsam yn cynnal digwyddiad lle gall plant oedran ysgol gynradd fwynhau profiad lliwio yn yr ystafell ddosbarth.

Yma, gallant ddysgu am y symbolau a’u hystyron cyn mentro ar lwybr cylchol hawdd i ddod o hyd iddynt.

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 5 Medi am 11am. Mae’n addas ar gyfer plant oedran ysgol gynradd sydd yng nghwmni oedolyn ac mae mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ar gael. Os bydd hi’n bwrw glaw, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y diwrnod canlynol ar yr un amser.

Hyn a hyn o leoedd sydd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’n gynnar i osgoi siom.

I’r rheiny sydd wrth eu bodd efo popeth brawychus, mae yna daith berffaith ar y ffordd i chi. Ar noson fwyaf brawychus y flwyddyn, ddydd Sadwrn 31 Hydref, ymunwch â Chylch Hanes Wrecsam ar gyfer “Y Nodedig a’r Drwg-enwog: Y da a’r drwg sydd wedi’u claddu ym Mynwent Wrecsam”.

Ydych chi’n ddigon dewr i glywed straeon y caredig a’r drygionus yn ninas y meirwon? Peidiwch â phoeni, mae’r daith yn dechrau am 11am i’r rhai sy’n wyliadwrus o’r tywyllwch.

Mae’r daith yn addas ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ac mae mynediad i gadeiriau olwyn. Os bydd hi’n bwrw glaw, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y diwrnod canlynol ar yr un amser. Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly ewch ati’n gyflym i sicrhau eich lle!

Sut i gadw eich lle

Mae’r teithiau hyn yn rhad ac am ddim, ond fe’ch cynghorir i gadw lle ymlaen llaw gan mai hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ar bob taith.

I gofrestru, anfonwch neges at y tîm yng Nghylch Hanes Wrecsam drwy e-bostio wrexhamhistorycircle@yahoo.com gan gynnwys y dyddiad o’ch dewis a chyfanswm nifer y bobl yn eich parti.

Mae’r holl deithiau yn addas ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ac maent i gyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Os bydd hi’n bwrw glaw, bydd y digwyddiadau’n cael ei gynnal ar y diwrnod canlynol ar yr un amser.

Rhannu
Erthygl flaenorol Advanced manufacturing Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Erthygl nesaf Women's Health Event 2026 Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English