Mae Sinfonia Cymru yn cael ei adnabod fel cerddorfa fwyaf gyffrous Cymru, ac yn Medi byddant yn dod â neb llai na N’famady Kouyaté, enillydd y gystadleuaeth ‘Glastnobury’s Emerging Talent Competition’ yma i Tŷ Pawb, Wrecsam i berfformio cyngerdd hollol unigryw..
Bydd y gyngerdd yn cyfuno diwylliant ac ardduliau cerddorol Gorllewin Africa, ble cafodd N’famady ei fagu, gyda thalentau rhagorol Sinfonia Cymru. Bydd y gynulleidaf yn Tŷ Pawb yn profi cymysgedd hardd o’r clasurol, y gwerin, rhythmau Africanaidd a cherddoriaeth wreiddiol N’famady. Cewch hefyd brofi ei waith lleisio pwerus a’i sgiliau balafon – N’famady yw’r chwaraewr balafon gorau ar y blaned!
Wedi ei fagu mewn teulu Griot sy’n enwog am ei gallu cerddorol a’i dawn storïa, mae galw mawr am N’famady ymhob cornel o’r byd. Wedi symud o Guinea i Gaerdydd, mae wedi cydweithio gyda nifer o sêr cerddorol Cymru ar ei albwm gyntaf, gan gynnwys Gruff Rhys a Lisa Jên Brown. Mae wedi dyheu am gael teithio gyda cherddorfa ac offerynwyr clasurol, a dyma ni, breuddwyd yn cael ei wireddu!
Os nad ydech chi eisioes wedi profi Sinfonia Cymru yn Tŷ Pawb, dyma le da i ddechrau. Mae’r gerddorfa yn gartref i rhai o’r chwaraewyr ifanc gorau ym Mhrydain. Wedi perfformio’r gyngerdd hon yn Porters, Caerdydd ac yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, roedd y gynulleidfa wrth ei bodd;
“Cerddoriaeth delicious gan gerddorion gwych, lyfio fo!”
“Mor refreshing, bydd hwn yn aros gyda fi amser hir”.
“Anhygoel, sick! Mwy plis!”
Bydd N’famady Kouyaté gyda Sinfonia Cymru yn cael ei berfformio yn Tŷ Pawb, Wrecsam ar Nos Iau y 4ydd o Fedi am 8:00yh. Mae tocynnau ar gael ar wefan Tŷ Pawb ac o’r swyddfa docynnau ar 01978 292 144.