Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 11, 2025 3:13 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
RHANNU

Gallai cynlluniau i ymgynghori ar ddyfodol tair ysgol gynradd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gael sêl bendith yn ddiweddarach y mis hwn.

Ddydd Mawrth, 16 Medi, bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn edrych ar gynigion i ymgynghori ar ddyfodol Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy, sy’n cynnwys ysgolion cynradd yn Froncysyllte, Garth a Pentre.

Os bydd y bwrdd yn rhoi sêl bendith, bydd gofyn i aelodau’r cyhoedd – gan gynnwys rhieni a gofalwyr – rannu eu barn ar gynigion i gau’r ysgol yn Froncysyllte, tra bydd yr ysgolion yn Garth a Pentre yn cael eu cadw.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r tair ysgol wedi disgyn ymhell o dan y nifer o ddisgyblion maent yn gallu derbyn, gyda Froncysyllte yn cofnodi’r ffigyrau isaf gyda dim ond 11 o ddisgyblion wedi’u cofrestru yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i gau’r ysgol yn Froncysyllte, byddai disgyblion yn cael cynnig lle mewn ysgol amgen.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Am y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y disgyblion ym mhob un o’r tair ysgol wedi gostwng, llawer is na’r cynifer o ddisgyblion maent yn gallu eu derbyn.

“Gyda niferoedd mor isel a chymaint o leoedd gwag, mae’n gwneud synnwyr adolygu strwythur Ffederasiwn Dyffryn Dyfrdwy ac ystyried a yw cadw’r tair ysgol yn gynaliadwy.

“Fel cyngor, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ysgolion yn hyfyw yn hirdymor, ond rydym hefyd yn sensitif i anghenion a dewisiadau rhieni a gofalwyr – felly os bydd yr ymgynghoriad yn cael sêl bendith, byddwn yn annog pobl i gymryd rhan fel y gallwn gael eu barn cyn penderfynu sut i symud ymlaen.”

Os bydd y Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith, bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 23 Medi a bydd ar agor tan 7 Tachwedd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Erthygl nesaf R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English