Mae digwyddiadau codi arian a gwirfoddolwyr yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi llawer o bobl ar draws bwrdeistref sirol Wrecsam.
Y mis hwn, cynhaliodd y Cynghorydd Beryl Blackmore ddigwyddiad anffurfiol i gyflwyno ei rhoddion o’r arian a godwyd yn ystod ei blwyddyn fel Maer.
Bob blwyddyn, mae Maer Wrecsam yn cynnal digwyddiadau i godi arian yn enw Elusen y Maer. Yna, mae’n enwebu nifer fach o elusennau i dderbyn yr arian ar ddiwedd ei flwyddyn yn y swydd.
Enwebodd y Cynghorydd Blackmore Bowel Cancer UK, The Unbeatable Eva Foundation, Wrecsam sy’n Deall Dementia a Childhood Eye Cancer Trust. Cyflwynwyd rhodd o oddeutu £2,000 yr un i’r elusennau.
Ymunodd cynrychiolwyr o’r elusennau â’r Cynghorydd Blackmore yng ngrŵp Caffi Eglwys Fethodistaidd Gresffordd ar gyfer dathliad anffurfiol ac i dderbyn eu rhoddion.
Dywedodd y Cynghorydd Blackmore: “Ar ôl blwyddyn mor wych fel Maer, roedd yn fraint gallu dosbarthu rhoddion i’r pedair elusen hyn. Mae pob un ohonynt yn bwysig i mi yn bersonol ac rwy’n ymwybodol o bwysigrwydd y gwaith maent yn ei wneud. Rwy’n gobeithio y bydd y rhoddion hyn yn mynd yn bell i’w galluogi i barhau â’u gwaith hanfodol.”