Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lleY cyngor

Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?

Diweddarwyd diwethaf: Medi 15, 2025 10:40 am
Rhannu
Darllen 3 funud
foster wales
RHANNU

Ydych chi wedi cael profiad proffesiynol neu bersonol o faethu, mabwysiadu, neu ofalu am blant i ffwrdd o’u teuluoedd biolegol?

Cynnwys
  • Beth mae aelod o’r panel maethu yn ei wneud?
  • Am bwy ydyn ni’n chwilio?
  • Manylion ymarferol
  • Oes gennych ddiddordeb?

Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant?

Os felly, byddai panel maethu Cyngor Wrecsam wrth eu bodd yn clywed oddi wrthych.

Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu recriwtio aelodau panel newydd i ymuno â’n rhestr ganolog. Nid rolau cyflogedig yw’r rhain – yn hytrach, mae aelodau’r panel yn hunangyflogedig ac yn talu ffi fesul panel a fynychir.

Beth mae aelod o’r panel maethu yn ei wneud?

Mae aelodau’r panel yn chwarae rhan hanfodol yn gwneud argymhellion ynghylch cymeradwyo ac adolygu gofalwyr maeth. Mae’n rôl sy’n gofyn am ystyriaeth feddylgar, cyfranogiad gweithredol, ac ymrwymiad i gadw plant yn ddiogel a rhoi gofal da iddynt.

Fel aelod o’r panel, byddwch yn:

  • darllen ac ystyried papurau achos cyn pob cyfarfod
  • mynychu cyfarfodydd panel a chyfrannu at wneud penderfyniadau gwybodus, cytbwys
  • defnyddio eich profiad proffesiynol neu bersonol eich hun i gefnogi trafodaethau cadarn
  • cynnal egwyddorion cyfrinachedd, amrywiaeth ac arferion gwrth-wahaniaethol
  • mynychu o leiaf un diwrnod hyfforddi y flwyddyn
  • cymryd rhan mewn adolygiadau blynyddol o aelodaeth eich panel

Am bwy ydyn ni’n chwilio?

Nid oes angen i chi fod wedi bod yn ofalwr maeth nac yn weithiwr cymdeithasol – er bod y profiad hwnnw’n cael ei groesawu. Rydym yn chwilio am bobl sydd ag ymrwymiad cryf i les plant, sy’n gallu:

  • deall anghenion plant mewn gofal
  • dadansoddi gwybodaeth gymhleth
  • gweithio’n dda mewn tîm
  • cyfathrebu’n glir ac yn barchus
  • dod â safbwyntiau a phrofiadau bywyd amrywiol

Rydym yn gwerthfawrogi lleisiau o bob cefndir ac yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.

Manylion ymarferol

  • mae aelodau’r panel yn hunangyflogedig, ac yn derbyn ffi am bob panel a fynychir
  • cynhelir paneli’n rheolaidd, ac rydym yn gofyn i’r aelodau ymrwymo i fynychu fel y cytunwyd
  • mae rhywfaint o hyblygrwydd i fynychu paneli ychwanegol (os ar gael) yn ddefnyddiol

Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, aelod arweiniol y gwasanaethau plant a theuluoedd:  “Mae hwn yn gyfle cyfrifol ond gwerth chweil i helpu i lunio dyfodol plant a phobl ifanc yn Wrecsam. Gall eich barn a’ch profiad personol wneud gwahaniaeth parhaol. Os ydych chi’n teimlo bod hyn yn rhywbeth y byddech chi’n mwynhau bod yn rhan ohono, cysylltwch â ni.”

Oes gennych ddiddordeb?

Os hoffech wybod mwy am ymuno â’n panel maethu, cysylltwch â rheolwr y tîm maethu ar 01978 295310.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Erthygl nesaf Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English